2015 Rhif 1597 (Cy. 196)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn cydgrynhoi, gyda diwygiadau, Reoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992 (O.S. 1992/656) ac offerynnau diwygio dilynol i’r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Maent hefyd yn cynnwys darpariaeth sy’n ymwneud â’r cyfnod ar gyfer penderfynu gweithdrefn o dan adrannau 20 ac 21 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (“y DCSP”).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gweithredu’r agweddau defnydd tir yng Nghyfarwyddeb 2012/18/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reoli peryglon damweiniau mawr sy’n cynnwys sylweddau peryglus (O.J. Rhif L 197, 24.7.2012, t. 1) (“Cyfarwyddeb Seveso III”). Mae’r Gyfarwyddeb honno yn diwygio ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 96/82/EC. Er mwyn gweithredu’r gofynion hynny yn llawn, mae rhannau o reoliadau 24 a 26 o Reoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 2015 (O.S. 2015/627) yn gymwys i Gymru. Maent yn gymwys i’r graddau y maent yn ymwneud â materion cynllunio seilwaith nad ydynt wedi eu datganoli. Gweithredir yr agweddau nad ydynt yn ymwneud â chynllunio yng Nghyfarwyddeb Seveso III drwy Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 2015 (O.S. 2015/483).

O ganlyniad mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu i’r graddau y maent yn gymwys i Gymru:

(1) Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992;

(2) Rheoliadau Cynllunio (Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr) 1999 (O.S. 1999/981);

(3) Rheoliad 10 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cymhwyso Is-ddeddfwriaeth i’r Goron) 2006 (O.S. 2006/1282);

(4) Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Diwygio) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/450 (Cy. 48));

(5) Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Diwygio) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/375 (Cy. 43)); a

(6) Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2777 (Cy. 283)).

Mae’r prif newidiadau yn y Rheoliadau hyn fel a ganlyn—

(1) mae’r esemptiadau sydd eisoes yn bodoli i’r gofyniad i gael cydsyniad sylweddau peryglus wedi eu hestyn yn rheoliad 4 ac Atodlen 2;

(2) darperir ar gyfer esemptiad newydd i’r gofyniad ar gyfer cydsyniad sylweddau peryglus yn achos mân newidiadau penodol yn rheoliad 4 a pharagraffau 16 a 17 o Atodlen 2;

(3) mae rhestr o wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 5 yn disodli’r ffurflen ragnodedig ar gyfer gwneud cais am gydsyniad;

(4) mae rheoliadau 6, 7, 10 ac 11(2) yn gwella cyfranogiad cyhoeddus yn y broses cydsyniad sylweddau peryglus;

(5) mae rheoliad 13 yn darparu mai dim ond ar gyfer apelau o dan adran 21(1) y mae terfyn amser o 6 mis i apelio o dan adran 21 o’r DCSP yn gymwys;

(6) mae gofyniad ar Weinidogion Cymru yn rheoliad 26 i ystyried, wrth lunio eu polisïau cynllunio defnydd tir, llwybrau trafnidiaeth a harbyrau pysgodfeydd cenedlaethol, amcanion penodol ac ystyriaethau eraill sy’n ymwneud ag atal peryglon damweiniau mawr a chyfyngu ar ganlyniadau damweiniau o’r fath ar gyfer iechyd dynol a’r amgylchedd;

(7) mae gofynion ymgynghori cyhoeddus yn rheoliad 27 ar gyfer cynlluniau a rhaglenni cyffredinol sy’n ymwneud â chynllunio ar gyfer sefydliadau sylweddau peryglus newydd,  pan allai’r lleoliad neu’r datblygiad gynyddu’r risg o ddamwain fawr neu ychwanegu at ganlyniadau damwain fawr. Nid yw’r gofynion hyn yn gymwys i gynlluniau a rhaglenni sy’n ddarostyngedig i gyfranogiad cyhoeddus o dan Ran 3 o Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1656 (Cy. 70));

(8) mae gofynion newydd ar gyfer ymgynghori â’r cyhoedd cyn y gwneir penderfyniadau ar ddatblygu o amgylch sefydliadau sylweddau peryglus yn rheoliad 28 pan allai’r lleoliad neu’r datblygiad achosi damwain fawr neu gynyddu’r risg o ddamwain fawr neu ychwanegu at ganlyniadau damwain o’r fath;

(9) mae’r rhestr o’r sylweddau sydd dan reolaeth wedi newid yn Atodlen 1 ac mae’r maintioli sydd dan reolaeth yn Atodlen 1 wedi ei alinio gyda’r sefydliadau hynny y cyfeirir atynt fel “haen 1” yng Nghyfarwyddeb Seveso III, (ac eithrio’r maintioli ar gyfer hydrogen a nwyon fflamadwy hylifedig penodol); a

(10) yn Rhan 3 o Atodlen 1 mae rheolaeth ar sylweddau y gellid eu cynhyrchu wrth golli rheolaeth ar broses ddiwydiannol pan fo’n rhesymol rhag-weld y gallai sylwedd peryglus gael ei gynhyrchu.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru ac yn nodi—

(1) yn Rhan 2 ac Atodlen 1, y sylweddau sy’n sylweddau peryglus at ddibenion y Ddeddf, y maintioli o’r sylweddau hynny sydd dan reolaeth;

(2) yn Rhan 2 ac Atodlen 2, yr esemptiadau o’r angen am gydsyniad sylweddau peryglus; 

(3) yn Rhan 3 ac Atodlen 3, y gweithdrefnau i’w dilyn ar gyfer cais am gydsyniad sylweddau peryglus;

(4) yn Rhan 4 ac Atodlen 4, ddarpariaethau sy’n ymwneud â hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, gan gynnwys apelau yn eu herbyn, eu heffaith a gofyniad ar awdurdodau sylweddau peryglus i gynnal a chadw cofrestr ohonynt;

(5) yn Rhan 5, faterion eraill sy’n ymwneud â chydsyniad sylweddau peryglus, gan gynnwys yr wybodaeth i’w chadw mewn cofrestr cydsyniadau, y ffioedd sy’n ofynnol mewn cysylltiad â chais am gydsyniad sylweddau peryglus a cheisiadau tybiedig, sut mae rheoli sylweddau peryglus yn gymwys i awdurdodau sylweddau peryglus a gofynion hysbysu ar awdurdodau sylweddau peryglus a’r awdurdod COMAH cymwys (sef naill ai’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, neu’r Swyddfa dros Reoli Niwclear, a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru) sy’n ymwneud â hawliadau am esemptiad ar gyfer presenoldeb sylweddau sefydledig;

(6) yn Rhan 6, y rhwymedigaeth i ystyried materion penodol yng Nghyfarwyddeb Seveso III wrth lunio polisïau cynllunio defnydd tir, llwybrau trafnidiaeth a harbyrau pysgodfeydd; rhwymedigaethau o ran ymgyngoriadau a chyfranogiad cyhoeddus mewn perthynas â chynlluniau, rhaglenni a phrosiectau penodol; ac

(7) yn Rhan 7 ac Atodlen 5, ddirymiadau, diwygiadau, arbedion, darpariaethau trosiannol a chymhwyso i’r Goron.

Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Is-adran Cynllunio, Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar y wefan yn https://www.llyw.cymru.

 

 


2015 Rhif 1597 (Cy. 196)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015

Gwnaed                                     3 Awst 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad

 Cenedlaethol Cymru                   7 Awst 2015

Yn dod i rym                              4 Medi 2015

CYNNWYS

RHAN 1

Cyffredinol

1.       Enwi, cychwyn a chymhwyso

2.       Dehongli

RHAN 2

Sylweddau peryglus, maintioli sydd dan reolaeth ac esemptiadau

3.       Sylweddau peryglus a maintioli sydd dan reolaeth

4.       Esemptiadau

 

RHAN 3

Gweithdrefnau cydsyniad sylweddau peryglus

5.       Ceisiadau am gydsyniad sylweddau peryglus

6.       Cyhoeddi hysbysiadau o geisiadau

7.       Hysbysiadau o geisiadau i berchnogion

8.       Edrych ar geisiadau

9.       Ceisiadau yn dod i law awdurdod sylweddau peryglus

10.     Ymgynghori cyn rhoi cydsyniad sylweddau peryglus

11.     Penderfynu ceisiadau am gydsyniad sylweddau peryglus

12.     Hysbysiad o gyfeirio ceisiadau i Weinidogion Cymru

13.     Apelau

14.     Y cyfnod ar gyfer penderfynu gweithdrefn o dan adrannau 20 ac 21 o’r DCSP

 

RHAN 4

Gorfodi (hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus – apelau, effaith a chofrestr)

15.     Hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus: darpariaethau atodol

16.     Apelau yn erbyn hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus

17.     Apelau: materion atodol

18.     Effaith peidio â chydymffurfio â hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, etc.

19.     Y gofrestr hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus

20.     Dilysrwydd, etc.

21.     Dehongli’r DCGTh at ddibenion y Rhan hon

 

RHAN 5

Materion eraill yn ymwneud â chydsyniad sylweddau peryglus (y gofrestr cydsyniadau, ffioedd, cymhwyso’r DCSP i awdurdodau sylweddau peryglus a hysbysu sefydliadau eraill)

22.     Y gofrestr cydsyniadau

23.     Ffioedd ar gyfer ceisiadau

24.     Ffioedd ar gyfer ceisiadau tybiedig

25.     Cymhwyso’r DCSP i awdurdodau sylweddau peryglus

 

RHAN 6

Polisïau ac ymgynghoriad a chyfranogiad cyhoeddus

26.     Polisïau

27.     Cynlluniau a rhaglenni

28.     Cymeradwyaethau cynllunio eraill ar gyfer prosiectau

 

RHAN 7

Dirymiadau, diwygiadau, arbedion, a darpariaethau trosiannol a chymhwyso i’r Goron

29.     Dehongli’r Rhan hon

30.     Dirymiadau

31.     Ceisiadau trosiannol ac apelau

32.     Dehongli cydsyniadau presennol

33.     Arbed ar gyfer amodau cydsynio tybiedig

34.     Hysbysu sefydliadau eraill

35.     Diwygiadau

36.     Cymhwyso i’r Goron

YR ATODLENNI

 

ATODLEN 1  — SYLWEDDAU PERYGLUS A MAINTIOLI SYDD DAN REOLAETH

                                   RHAN 1 —  Categorïau o sylweddau

       RHAN 2 —  Sylweddau peryglus a enwir

       RHAN 3 — Sylweddau a ddefnyddir mewn proses gemegol ddiwydiannol

       RHAN 4 — Nodiadau i Rannau 1 i 3

ATODLEN 2 —  ESEMPTIADAU

ATODLEN 3 —  FFURFLENNI, HYSBYSIADAU A THYSTYSGRIFAU RHAGNODEDIG

ATODLEN 4 —  GORFODI – ADDASIADAU PENODEDIG O’R DCGTh

     RHAN 1 —  Apelau yn erbyn hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus

       RHAN 2 —  Effaith hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, etc.

       RHAN 3 —  Dilysrwydd

ATODLEN 5 —  DIWYGIADAU I DDEDDFWRIAETH

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([1]) (“Deddf 1972”) mewn perthynas ag atal effeithiau damweiniau sy’n cynnwys sylweddau peryglus, a chyfyngu arnynt, i’r graddau y maent yn ymwneud â chynllunio defnydd tir, llwybrau trafnidiaeth neu bysgodfeydd([2]).

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 4, 5, 7, 8, 17, 21, 21B, 24, 25, 26A, 28, 30 a 40 o Ddeddf

Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990([3]), adran 2(2) o Ddeddf 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi, ac adran 26 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993([4]). Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli’r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at Reoliad (EC) Rhif 1272/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 16 Rhagfyr 2008 ar ddosbarthu, labelu a phacio sylweddau a chymysgeddau([5]), fel cyfeiriadau at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygiwyd o bryd i’w gilydd.

RHAN 1

Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 4 Medi 2015.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod COMAH cymwys” (“COMAH competent authority”)—

(a)     mewn perthynas â safle niwclear yw’r Swyddfa dros Reoli Niwclear a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd,

(b)     fel arall, yw’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd;

mae i “cyfathrebiadau electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communications” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000;

ystyr “DCGTh” (“TCPA”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990([6]);

ystyr “y DCSP” (“the PHSA”) yw Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990;

ystyr “dyddiad cychwyn” (“commencement date”) yw 4 Medi 2015;

ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb 2012/18/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reoli peryglon damweiniau mawr sy’n cynnwys sylweddau peryglus([7]);

ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992([8]); ac

mae i “safle niwclear” yr un ystyr ag sydd i “nuclear site” yn adran 112(1) o Ddeddf Ynni 2013([9]).

(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at ffurflen â rhif yn gyfeiriad at y ffurflen sydd â’r rhif cyfatebol yn Atodlen 3.

(3) Mae Rhannau 1 i 3 o Atodlen 1 (sylweddau peryglus a maintioli sydd dan reolaeth) i’w dehongli yn unol â’r nodiadau i’r Atodlen honno ac mae cyfeiriad yn yr Atodlen honno at nodyn yn gyfeiriad at nodyn yn Rhan 4 o’r Atodlen honno.

(4) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at Reoliad (EC) Rhif 1272/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 16 Rhagfyr 2008 (“Rheoliad DLPh”) ar ddosbarthu, labelu a phacio sylweddau a chymysgeddau yn gyfeiriadau at y rheoliad hwnnw fel y’i diwygiwyd o bryd i’w gilydd.

RHAN 2

Sylweddau peryglus, maintioli sydd dan reolaeth ac esemptiadau

Sylweddau peryglus a maintioli sydd dan reolaeth

3. At ddiben y DCSP—

(a)     mae sylweddau peryglus yn sylweddau, cymysgeddau neu baratoadau—

                           (i)    sy’n dod o fewn categori yng ngholofn 1 o Ran 1 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn (sylweddau peryglus a maintioli sydd dan reolaeth),

                         (ii)    sydd wedi eu pennu yng ngholofn 1 o Ran 2 o’r Atodlen honno, neu

                       (iii)    sy’n bodloni’r disgrifiad yng ngholofn 1 o Ran 3 o’r Atodlen honno,

ac sy’n bresennol fel deunyddiau crai, cynhyrchion, sgil-gynhyrchion, gweddillion neu ryng-gynhyrchion; a

(b)     y maintioli o sylwedd peryglus sydd dan reolaeth yw’r maintioli a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i’r sylwedd hwnnw.

Esemptiadau

4. Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn yn cael effaith.  

RHAN 3

Gweithdrefnau cydsyniad sylweddau peryglus

Ceisiadau am gydsyniad sylweddau peryglus

5.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 25 (cymhwyso’r DCSP i awdurdodau sylweddau peryglus), rhaid i gais am gydsyniad sylweddau peryglus—

(a)     cael ei wneud i’r awdurdod sylweddau peryglus;

(b)     cynnwys enw a chyfeiriad y ceisydd;

(c)     cynnwys map safle a phlan lleoliad sylwedd;

(d)     cynnwys manylion am—

                           (i)    lleoliad y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

                         (ii)    y person sy’n rheoli’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

                       (iii)    pob sylwedd peryglus y ceisir cydsyniad ar ei gyfer (“sylwedd perthnasol”), gan gynnwys uchafswm maintioli pob sylwedd perthnasol y bwriedir iddo fod yn bresennol;

                        (iv)    y prif weithgareddau a gyflawnir neu y bwriedir eu cyflawni ar y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

                          (v)    sut y mae cadw a defnyddio pob sylwedd perthnasol ac ym mhle;

                        (vi)    sut y bwriedir cludo pob sylwedd perthnasol i’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef ac oddi yno,

                      (vii)    cyffiniau’r tir perthnasol, pan fo manylion o’r fath yn berthnasol i’r risgiau o ddamwain fawr neu i ganlyniadau damwain o’r fath; ac

                    (viii)    y mesurau a gymerir neu y bwriedir eu cymryd i gyfyngu ar ganlyniadau damwain fawr; a

(e)     cael ei gyflwyno ynghyd â’r hysbysiadau a’r tystysgrifau sy’n ofynnol gan reoliadau 6 a 7.

(2) Yn ddarostyngedig i reoliad 25 (cymhwyso’r DCSP i awdurdodau sylweddau peryglus), rhaid i gais y mae adran 13 o’r DCSP yn gymwys iddo (cais am gydsyniad sylweddau peryglus heb amod y rhoddwyd cydsyniad blaenorol yn ddarostyngedig iddo)—

(a)     cael ei wneud i’r awdurdod sylweddau peryglus;

(b)     cynnwys enw a chyfeiriad y ceisydd;

(c)     cynnwys plan newid lleoliad, os yw’r cais yn ymwneud ag amod sy’n cyfyngu ar leoliad sylwedd peryglus;

(d)     mewn perthynas ag unrhyw gydsyniad perthnasol, gynnwys copi o—

                           (i)    y cydsyniad, pan fo’r cydsyniad perthnasol yn gydsyniad a roddwyd ar gais o dan y DCSP;

                         (ii)    yr hawliad perthnasol, pan fo’r cydsyniad perthnasol yn gydsyniad y tybir ei fod wedi ei roi o dan adran 11 o’r DCSP; neu

                       (iii)    y cyfarwyddwyd perthnasol, pan fo’r cydsyniad perthnasol yn gydsyniad y tybir ei fod wedi ei roi o dan adran 12;

(e)     nodi unrhyw amod a osodwyd yn flaenorol ar y cydsyniad perthnasol—

                           (i)    y cynigir na ddylid ei osod mwyach ar y cydsyniad; neu

                         (ii)    y cynigir mai dim ond ar ffurf wedi ei haddasu y dylid ei osod;

(f)      ar gyfer unrhyw amod a nodir o dan is-baragraff (e)(i), roi’r rhesymau pam na ddylid ei osod;

(g)     ar gyfer unrhyw amod a nodir o dan is-baragraff (e)(ii)—

                           (i)    nodi’r addasiad arfaethedig; a

                         (ii)    rhoi’r rhesymau pam mai dim ond ar ffurf wedi ei haddasu y dylid ei osod;

(h)     disgrifio unrhyw newidiadau perthnasol mewn amgylchiadau ers dyddiad y cydsyniad perthnasol; ac

(i)      cael ei gyflwyno ynghyd â’r hysbysiadau a’r tystysgrifau  sy’n ofynnol gan reoliadau 6 a 7.

(3) Rhaid i gais o dan adran 17 o’r DCSP (cais ar gyfer parhau â chydsyniad yn dilyn newid rheolaeth)—

(a)     cael ei wneud i’r awdurdod sylweddau peryglus;

(b)     cynnwys enw a chyfeiriad y ceisydd;

(c)     cynnwys plan newid rheolaeth;

(d)     cynnwys, mewn perthynas ag unrhyw gydsyniad perthnasol, ba bynnag rai o’r dogfennau a restrir ym mharagraff (2)(d) sy’n gymwys i’r cydsyniad perthnasol;

(e)     nodi’r dyddiad y mae’r person sy’n rheoli rhan o’r tir yn newid, pan fo’n hysbys;

(f)      disgrifio defnydd pob ardal o’r safle a nodwyd yn y plan newid rheolaeth;

(g)     disgrifio unrhyw newidiadau perthnasol mewn amgylchiadau ers rhoi’r cydsyniad perthnasol; a

(h)     cael ei gyflwyno ynghyd â’r hysbysiadau a’r tystysgrifau sy’n ofynnol gan reoliadau 6 a 7.

(4) Rhaid cyflwyno tri chopi o unrhyw gais y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ac unrhyw beth y mae’n ofynnol ei gyflwyno ynghyd ag ef, os gofynna’r awdurdod sylweddau peryglus amdanynt.

(5) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cydsyniad perthnasol” (“relevant consent”) yw cydsyniad sylweddau peryglus presennol y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

“map safle” (“site map”) yw map, sydd wedi ei atgynhyrchu o un o fapiau’r Arolwg Ordnans, neu sydd wedi ei seilio ar fap o’r fath gyda graddfa heb fod yn llai na 1:10,000, sy’n nodi’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef ac sy’n dangos llinellau a rhifau cyfeirnod y Grid Cenedlaethol; 

“plan lleoliad sylwedd” (“substance location plan”) yw plan o’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, sydd wedi ei lunio i raddfa heb fod yn llai na 1:2,500, sy’n nodi—

(a)     unrhyw ardal o’r tir y bwriedir ei defnyddio ar gyfer storio’r sylwedd;

(b)     pan fo’r sylwedd i’w ddefnyddio mewn proses weithgynhyrchu, proses drin neu broses ddiwydiannol arall, leoliad prif eitemau’r offer sy’n ymwneud â’r broses honno y bydd y sylwedd yn bresennol ynddi;

(c)     mannau mynediad i’r tir ac oddi yno;

“plan newid lleoliad” (“change of location plan”) yw plan o’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, sydd wedi ei lunio i raddfa heb fod yn llai na 1:2,500, sy’n nodi lleoliad y sylwedd peryglus ar ddyddiad y cais a’r lleoliad arfaethedig y mae’r cais yn ofynnol ar ei gyfer; a

“plan newid rheolaeth” (“change of control plan”) yw plan o’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, sydd wedi ei lunio i raddfa heb fod yn llai na 1:2,500, sy’n nodi pob ardal o’r safle sydd o dan reolaeth ar wahân ar ôl y newid rheolaeth arfaethedig.

(6) Mae rheoliadau 6 i 13 yn gymwys i geisiadau a wnaed o dan adran 17 o’r DCSP (dirymu cydsyniad sylweddau peryglus wrth newid rheolaeth o dir) fel y maent yn gymwys i geisiadau ar gyfer cydsyniad sylweddau peryglus.

Cyhoeddi hysbysiadau o geisiadau

6.(1) Cyn gwneud cais am gydsyniad sylweddau peryglus i’r awdurdod sylweddau peryglus, rhaid i’r ceisydd, yn ystod y cyfnod o 21 o ddiwrnodau yn union cyn y cais—

(a)     hysbysu’r cyhoedd drwy hysbysiad a gyhoeddwyd mewn papur newydd lleol sy’n cael ei ddosbarthu yng nghyffiniau’r tir y mae’r cais sy’n ymwneud ag ef wedi ei leoli, neu drwy gyfrwng priodol arall, gan gynnwys cyfathrebiadau electronig, o’r materion a ganlyn—

                           (i)    disgrifiad o’r cynnig a chyfeiriad neu leoliad y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

                         (ii)    pan fo’n gymwys, y ffaith bod y cynnig yn brosiect, neu’n rhan o brosiect, sy’n ddarostyngedig i asesiad effaith amgylcheddol cenedlaethol neu drawsffiniol neu ymgyngoriadau rhwng Aelod-wladwriaethau yn unol ag Erthygl 14(3) o’r Gyfarwyddeb;

                       (iii)    bydd yr awdurdod sylweddau peryglus (y gellir cael gwybodaeth berthnasol ganddo) yn penderfynu pa un ai i roi cydsyniad ai peidio, ac os y’i rhoddir, bydd yn penderfynu pa amodau i’w rhoi;

                        (iv)    y caniateir i sylwadau (gan gynnwys sylwadaethau neu gwestiynau) gael eu cyflwyno i’r awdurdod sylweddau peryglus;

                          (v)    manylion am sut y dylid cyflwyno sylwadau o’r fath a’r cyfnod o amser ar gyfer eu cyflwyno, na chaniateir iddo fod yn llai na 21 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr anfonwyd y cais o dan reoliad 5 i’r awdurdod sylweddau peryglus;

                        (vi)    awgrym o’r mannau lle y bydd gwybodaeth berthnasol ar gael a phryd, neu drwy ba gyfrwng y bydd ar gael; a

(b)     yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), arddangos hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (a) ar y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef am gyfnod nad yw’n llai na 7 niwrnod gan ei osod a’i arddangos yn y fath fodd fel y gellir ei ddarllen yn hawdd heb fynd ar y tir.

(2) Nid yw’n ofynnol i geisydd gydymffurfio â pharagraff (1)(b)—

(a)     os nad oes gan y ceisydd hawl mynediad neu hawliau eraill mewn cysylltiad â thir a fyddai’n galluogi’r ceisydd i arddangos yr hysbysiad fel sy’n ofynnol; a

(b)     os yw’r ceisydd wedi cymryd pob cam rhesymol i gaffael yr hawliau ond ei fod wedi methu. 

(3) Nid yw’r ceisydd i’w drin fel petai wedi methu â chydymffurfio â pharagraff (1)(b) os yw’r hysbysiad, heb unrhyw fai neu fwriad y ceisydd, yn cael ei symud ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn diwedd y cyfnod o 7 niwrnod y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw, cyhyd â bod y ceisydd wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad ac, os oes angen, ei ailosod.

(4) Ni chaiff yr awdurdod sylweddau peryglus ystyried cais am gydsyniad sylweddau peryglus oni bai y cyflwynir ynghyd ag ef—

(a)     copi o’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) a ardystiwyd gan, neu ar ran, y ceisydd fel un sydd wedi ei gyhoeddi yn unol â pharagraff (1)(a);

(b)     pan fo’n cael ei gyhoeddi mewn papur newydd lleol, fanylion am enw’r papur newydd a dyddiad ei gyhoeddi;

(c)     pan fo’n cael ei gyhoeddi drwy gyfrwng arall, fanylion y cyfryngau eraill hynny; a

(d)     y dystysgrif briodol ar Ffurflen 1, wedi ei llofnodi gan neu ar ran y ceisydd.

Hysbysiadau o geisiadau i berchnogion

7.(1) Ni chaiff awdurdod sylweddau peryglus ystyried cais am gydsyniad sylweddau peryglus oni bai bod pa bynnag rai o dystysgrifau A i D a nodir yn Ffurflen 2 sy’n briodol, wedi eu llofnodi gan neu ar ran y ceisydd, yn cael eu cyflwyno ynghyd â’r cais.

(2) Yn achos cais am gydsyniad sylweddau peryglus, rhaid i’r hysbysiad gofynnol y cyfeirir ato yn nhystysgrifau B ac C o Ffurflen 2 fod yn hysbysiad a roddir ar Ffurflen 3 a rhaid i gopi o’r hysbysiad y mae’n ofynnol ei gyhoeddi o dan reoliad 6(1)(a) fynd ynghyd ag ef.

Edrych ar geisiadau

8. Ar ôl cael cais o dan reoliad 5, rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus sicrhau bod copi o’r cais ar gael i edrych arno yn swyddfeydd yr awdurdod sylweddau peryglus yn ystod y cyfnod a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau yn unol â rheoliad 6(1).

Ceisiadau yn dod i law awdurdod sylweddau peryglus

9.(1) Pan fo’r awdurdod sylweddau peryglus yn cael cais dilys am gydsyniad sylweddau peryglus neu gais am unrhyw gydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth sy’n ofynnol gan amod a osodir ar roi cydsyniad sylweddau peryglus, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n ymarferol—

(a)     cydnabod yn ysgrifenedig bod y cais wedi dod i law; a

(b)     anfon copi o’r cais i’r awdurdod COMAH cymwys.

(2) Pan fo cais sy’n dod i law yn un annilys, ym marn yr awdurdod sylweddau peryglus, rhaid i’r awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, hysbysu’r ceisydd am ei farn, gan roi ei resymau.

(3) At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliadau 10 ac 11—

(a)     mae cais yn ddilys os yw’n cydymffurfio â rheoliad 5 a bod unrhyw ddogfennau sy’n ofynnol gan reoliadau 6 a 7 yn cael eu cyflwyno ynghyd ag ef; a

(b)     ystyrir bod cais dilys am gydsyniad sylweddau peryglus wedi dod i law—

                           (i)    pan fo yn nwylo’r awdurdod sylweddau peryglus; a

                         (ii)    pan fo unrhyw ffi sy’n ofynnol i’w thalu mewn cysylltiad â’r cais wedi ei thalu i’r awdurdod hwnnw.

Ymgynghori cyn rhoi cydsyniad sylweddau peryglus

10.(1) Ac eithrio pan fo’r corff neu’r person dan sylw wedi hysbysu’r awdurdod sylweddau peryglus nad yw’n dymuno i’r awdurdod ymgynghori ag ef, rhaid i’r awdurdod, cyn penderfynu cais am gydsyniad sylweddau peryglus, ymgynghori â’r canlynol— 

(a)     awdurdod COMAH cymwys;

(b)     y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol dan sylw, os nad y cyngor hwnnw yw’r awdurdod sylweddau peryglus hefyd;

(c)     y cyngor cymuned neu’r cyngor tref dan sylw;

(d)     yr awdurdod tân ac achub dan sylw, os nad yr awdurdod hwnnw yw’r awdurdod sylweddau peryglus hefyd;

(e)     y person dan sylw y mae trwydded wedi ei rhoi iddo o dan adran 7(2) o Ddeddf Nwy 1986 (trwyddedu cludwyr nwy)([10]);

(f)      y person dan sylw y mae trwydded wedi ei rhoi iddo o dan adran 6(1)(b) ac (c) o Ddeddf Trydan 1989 (trwyddedau sy’n awdurdodi cyflenwi etc.)([11]); 

(g)     pan fo’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef o fewn 2 cilometr o balas, parc neu breswylfa frenhinol, yr Ysgrifennydd Gwladol;

(h)     pan fo’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef mewn ardal sydd wedi ei dynodi’n dref newydd, corfforaeth datblygu’r dref newydd;

(i)      pan fo’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef wedi ei leoli o fewn 2 cilometr o—

                           (i)    sir, bwrdeistref sirol, neu ddosbarth cyfagos, y cyngor ar gyfer y sir honno, y fwrdeistref sirol honno neu’r dosbarth hwnnw;

                         (ii)    ardal awdurdod tân ac achub cyfagos, yr awdurdod hwnnw; neu

                       (iii)    tref newydd gyfagos, corfforaeth datblygu’r dref newydd;

(j)      pan fo’n ymddangos i’r awdurdod sylweddau peryglus sy’n delio â’r cais y gellid effeithio ar dir yn ardal unrhyw awdurdod sylweddau peryglus arall, yr awdurdod hwnnw; 

(k)     pan fo’r cais yn ymwneud â thir mewn ardal y mae adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a
Chefn Gwlad 1981([12]) yn gymwys iddi (safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig) neu pan ymddengys i’r awdurdod sylweddau peryglus sy’n delio â’r cais y gellid effeithio ar ardal o sensitifrwydd naturiol penodol neu o ddiddordeb penodol, yng Nghymru, Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu yn Lloegr, Natural England;

(l)      pan fo’r cais yn ymwneud â thir mewn ardal gwaith glo a hysbyswyd i’r awdurdod sylweddau peryglus gan yr Awdurdod Glo, yr Awdurdod Glo; ac

(m)   pan fo’r cais yn ymwneud â thir a ddefnyddir ar gyfer gwaredu neu storio gwastraff a reolir, yr awdurdod gwaredu gwastraff dan sylw, os nad yr awdurdod hwnnw yw’r awdurdod sylweddau peryglus hefyd.

(2) Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus hefyd, cyn penderfynu cais am gydsyniad sylweddau peryglus, ymgynghori ag unrhyw bersonau eraill, gan gynnwys unrhyw sefydliad anllywodraethol sy’n hyrwyddo gwaith diogelu’r amgylchedd, y mae’r cais yn effeithio arnynt neu y mae’n debygol o effeithio arnynt, neu sydd â buddiant ynddo, ac sydd ym marn yr awdurdod yn annhebygol o ddod yn ymwybodol o’r cais drwy’r hysbysiadau o dan reoliad 6.

(3) Pan fo’n ymgynghori o dan baragraff (1) neu (2) o’r rheoliad hwn, rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus hefyd, o fewn 7 niwrnod ar ôl cael y cais—

(a)     hysbysu’r corff neu’r person dan sylw yn ysgrifenedig ei fod wedi cael cais am gydsyniad sylweddau peryglus a rhoi gwybod iddo am y materion a ganlyn—

                           (i)    disgrifiad o’r cynnig a chyfeiriad neu leoliad y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

                         (ii)    pan fo’n gymwys, y ffaith bod y cynnig yn brosiect, neu’n rhan o brosiect, sy’n ddarostyngedig i asesiad effaith amgylcheddol cenedlaethol neu drawsffiniol neu ymgyngoriadau rhwng Aelod-wladwriaethau yn unol ag Erthygl 14(3) o’r Gyfarwyddeb;

                       (iii)    y bydd yr awdurdod sylweddau peryglus (y gellir cael gwybodaeth berthnasol ganddo) yn penderfynu pa un ai i roi cydsyniad ai peidio, ac os y’i rhoddir, bydd yn penderfynu ar ba amodau i’w roi;

                        (iv)    y caniateir i sylwadau (gan gynnwys sylwadaethau neu gwestiynau) gael eu cyflwyno i’r awdurdod sylweddau peryglus;

                          (v)    manylion am sut y dylid cyflwyno sylwadau o’r fath a’r cyfnod o amser ar gyfer eu cyflwyno, na chaniateir iddo fod yn llai na 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr hysbysir y person neu’r corff fod cais dilys wedi dod i law’r awdurdod sylweddau peryglus;

                        (vi)    awgrym o’r mannau lle y bydd gwybodaeth berthnasol ar gael a phryd, neu drwy ba gyfrwng y bydd ar gael; a

(b)     sicrhau bod copi o’r cais ar gael i edrych arno yn swyddfeydd yr awdurdod sylweddau peryglus yn ystod y cyfnod neu’r cyfnodau a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau.

(4) Pan fo’n ofynnol i awdurdod sylweddau peryglus ymgynghori â chorff o dan—

(a)     paragraff (1)(a), neu

(b)     paragraff (1)(k), pan ymddengys i’r awdurdod y gellid effeithio ar ardal o sensitifrwydd naturiol penodol neu o ddiddordeb penodol,

nid yw’r esemptiad ym mharagraff (1) yn gymwys.

(5) Yn y rheoliad hwn—

(a)     mae i “ardal o sensitifrwydd naturiol penodol neu o ddiddordeb penodol” yr un ystyr ag “area of particular natural sensitivity or interest” at ddibenion y Gyfarwyddeb;

(b)     mae i “gwastraff a reolir” yr ystyr a roddir i’r ymadrodd “controlled waste” gan adran 75(4) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990([13]) ac mae “awdurdod gwaredu gwastraff” (“waste disposal authority”) i’w ddehongli yn unol ag adran 30(2)([14]) o’r Ddeddf honno; ac

(c)     mae i “sir”, “bwrdeistref sirol” a “dosbarth” yr un ystyron ag sydd i “county”, “county borough” a “district”, yn eu trefn, yn Neddf Llywodraeth Leol 1972([15]). 

Penderfynu ceisiadau am gydsyniad sylweddau peryglus

11.(1) Ni chaiff awdurdod sylweddau peryglus benderfynu cais am gydsyniad sylweddau peryglus cyn y daw’r cyfnod neu’r cyfnodau i ben a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau yn unol â rheoliad 6(1) a 10(3). 

(2) Wrth benderfynu cais am gydsyniad sylweddau peryglus, rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad a gynhelir mewn perthynas â’r cais hwnnw.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (1), rhaid i awdurdod sylweddau peryglus, o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (4), roi i’r ceisydd hysbysiad ysgrifenedig am ei benderfyniad neu hysbysiad bod y cais wedi ei gyfeirio at Weinidogion Cymru i’w benderfynu.

(4) Y cyfnod a bennir at ddibenion paragraff (3) yw—

(a)     cyfnod o 8 wythnos o’r dyddiad y mae’r awdurdod sylweddau peryglus yn cael y cais; neu

(b)     ac eithrio pan fo’r ceisydd eisoes wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, y cyfryw gyfnod hwy ag y caiff y ceisydd a’r awdurdod sylweddau peryglus gytuno arno yn ysgrifenedig.  

(5) Pan fo awdurdod sylweddau peryglus yn rhoi hysbysiad o benderfyniad ar gais rhaid i’r hysbysiad, pan fo cydsyniad sylweddau peryglus yn cael ei wrthod neu ei roi yn ddarostyngedig i amodau—

(a)     nodi, yn glir ac yn fanwl, ei resymau llawn am ei wrthod neu am unrhyw amod a osodir; a

(b)     os yw’r ceisydd wedi ei dramgwyddo gan y penderfyniad, gynnwys datganiad i’r perwyl y caiff y ceisydd apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 21 o’r DCSP o fewn 6 mis i ddyddiad yr hysbysiad o benderfyniad, neu’r cyfryw gyfnod hwy ag y caiff Gweinidogion Cymru ei ganiatáu ar unrhyw adeg.

(6) Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, hysbysu’r personau a ganlyn am delerau ei benderfyniad—

(a)     yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch;

(b)     pan fo’r tir y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef yn safle niwclear, neu ar safle o’r fath, y Swyddfa dros Reoli Niwclear;

(c)     y  cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol dan sylw, os nad y cyngor hwnnw yw’r awdurdod sylweddau peryglus dan sylw hefyd;

(d)     unrhyw ymgyngoreion eraill sydd wedi cyflwyno sylwadau iddo ar y cais; ac

(e)     unrhyw berchnogion sydd wedi cyflwyno sylwadau iddo ar y cais.

(7) Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus sicrhau bod y canlynol ar gael i edrych arnynt yn swyddfeydd yr awdurdod sylweddau peryglus—

(a)     cynnwys y penderfyniad a’r rhesymau y seiliwyd y penderfyniad arnynt, gan gynnwys unrhyw hysbysiadau dilynol a gafwyd gan yr awdurdod COMAH cymwys yn unol â pharagraff 17 o Atodlen 2; a

(b)     canlyniadau’r ymgyngoriadau a gynhaliwyd cyn gwneud y penderfyniad ac esboniad am sut y’u hystyriwyd wrth wneud y penderfyniad hwnnw.

Hysbysiad o gyfeirio ceisiadau at Weinidogion Cymru

12. Wrth gyfeirio unrhyw gais at Weinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 20 o’r DCSP, rhaid i awdurdod sylweddau peryglus gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd—

(a)     yn hysbysu’r ceisydd bod y cais wedi ei gyfeirio at Weinidogion Cymru;

(b)     yn nodi’r rhesymau a roddir gan Weinidogion Cymru am ddyroddi’r cyfarwyddyd; ac

(c)     yn cynnwys datganiad y bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfle i’r ceisydd ymddangos gerbron person a benodwyd gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw a chael ei glywed ganddo, os yw’r ceisydd yn dymuno hynny.

Apelau

13.(1) Rhaid i unrhyw apêl i Weinidogion Cymru o dan adran 21(1) o’r DCSP (apelau yn erbyn penderfyniadau sy’n ymwneud â sylweddau peryglus) gael ei wneud o fewn 6 mis i ddyddiad yr hysbysiad o’r penderfyniad sy’n arwain at yr apêl, neu o fewn y cyfryw gyfnod hwy y caiff Gweinidogion Cymru ei ganiatáu ar unrhyw adeg.

(2) Rhaid i apêl o dan adran 21 o’r DCSP (apelau yn erbyn penderfyniadau neu fethiant i wneud penderfyniadau sy’n ymwneud â sylweddau peryglus)—

(a)     cael ei gwneud i Weinidogion Cymru ar ffurflen a geir oddi wrth Weinidogion Cymru;

(b)     cynnwys yr wybodaeth a bennir yn y ffurflen; ac

(c)     cael ei chyflwyno ynghyd â’r dogfennau a bennir ym mharagraff (3) a’r dystysgrif sy’n ofynnol gan baragraff (4).

(3) Y dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (2)(c) yw—

(a)     y cais a wnaed i’r awdurdod sylweddau peryglus sydd wedi achosi’r apêl;

(b)     unrhyw hysbysiadau a thystysgrifau sy’n ofynnol gan reoliadau 6 a 7 a gyflwynwyd ynghyd â’r cais;

(c)     unrhyw ohebiaeth â’r awdurdod sy’n ymwneud â’r cais; a

(d)     yr hysbysiad o benderfyniad, os oes un.

(4) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ystyried apêl o dan adran 21 o’r DCSP oni bai bod pa bynnag rai o dystysgrifau A i D sy’n briodol yn Ffurflen 2, wedi eu llofnodi gan neu ar ran yr apelydd, yn cael eu cyflwyno ynghyd â hi.

(5) Rhaid i’r hysbysiad gofynnol y cyfeirir ato yn nhystysgrifau B ac C, yn achos apêl o dan adran 21 o’r DCSP, fod yn hysbysiad a roddir ar Ffurflen 4.

(6) Rhaid i’r apelydd anfon copi o’r ffurflen hysbysiad o apêl wedi ei llenwi a’r dystysgrif sy’n cael ei chyflwyno ynghyd â hi i’r awdurdod sylweddau peryglus ar yr un pryd ag y gwneir yr apêl i Weinidogion Cymru.

Y cyfnod ar gyfer penderfynu gweithdrefn o dan adrannau 20 ac 21 o’r DCSP

14.(1) At ddibenion adran 21B(3) o’r DCSP (penderfyniad gan Weinidogion Cymru ar y weithdrefn ar gyfer ceisiadau o dan adran 20 o’r DCSP ac apelau o dan adran 21) y cyfnod rhagnodedig yw saith niwrnod gwaith o’r dyddiad perthnasol.

(2) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru; ac

ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”)—

(a)     mewn perthynas â chyfeiriadau o dan adran 20([16]) o’r DCSP (cyfeirio ceisiadau at Weinidogion Cymru), yw’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad gan yr awdurdod sylweddau peryglus bod y cais yn cael ei gyfeirio; a

(b)     mewn perthynas ag apêl o dan adran 21 o’r DCSP (apelau yn erbyn penderfyniadau neu fethiant i wneud penderfyniadau sy’n ymwneud â sylweddau peryglus), yw’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o’r apêl ynghyd ag unrhyw wybodaeth y caniateir ei rhagnodi.

RHAN 4

Gorfodi (hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus – apelau, effaith a chofrestr)

Hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus: darpariaethau atodol

15.(1) Yn ogystal â’r materion sy’n ofynnol gan adran 24 o’r DCSP i’w cynnwys mewn hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, rhaid i hysbysiad  hefyd nodi’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, pa un ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall.

(2) Yn ogystal â chyflwyno hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus i’r personau a grybwyllir yn adran 24(4)(a) a (b) o’r DCSP, rhaid i awdurdod sylweddau peryglus gyflwyno copi o’r hysbysiad i bob person arall sydd â buddiant yn y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

(3) Rhaid i bob copi o hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus a gyflwynir yn unol ag adran 24(4) o’r DCSP gael ei gyflwyno ynghyd â datganiad sy’n nodi—

(a)     rhesymau’r awdurdod sylweddau peryglus am ddyroddi’r hysbysiad; a

(b)     yr hawl i apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn yr hysbysiad, a’r personau a gaiff ddwyn apêl o’r fath, y seiliau y caniateir i apêl o’r fath gael ei gwneud arnynt ac o fewn pa gyfnod y caniateir hynny.

Apelau yn erbyn hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus

16. Mae adran 174(1), (2) a (3) i (6) ac adrannau 175(3) a (6), 176 a 177 o’r DCGTh yn gymwys mewn perthynas â hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 4.

Apelau: materion atodol

17.(1) Rhaid i berson sy’n apelio o dan adran 174(1) o’r DCGTh yn erbyn hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, ar yr un pryd ag y mae hysbysiad o’r apêl yn cael ei roi i Weinidogion Cymru neu ei anfon atynt o dan adran 174(3) o’r DCGTh, gyflwyno copi o’r hysbysiad o apêl a’r deunydd sy’n cael ei gyflwyno ynghyd ag ef sy’n ofynnol gan adran 174(4) o’r Ddeddf honno i’r awdurdod sylweddau peryglus a ddyroddodd yr hysbysiad.

(2) Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus, o fewn 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad y mae’r hysbysiad o apêl yn cael ei gyflwyno iddo, gyflwyno i Weinidogion Cymru a’r apelydd ddatganiad—

(a)     sy’n nodi cyflwyniadau’r awdurdod mewn perthynas â phob sail dros apelio; a

(b)     sy’n nodi pa un ai y byddai’r awdurdod yn barod i roi cydsyniad sylweddau peryglus ar gyfer presenoldeb unrhyw faintioli o’r sylwedd peryglus y mae’r hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus yn ymwneud ag ef ar, uwchben neu oddi tan y tir ac os felly, fanylion yr amodau, os oes rhai, y dymunent eu gosod ar y cydsyniad.

(3) Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus, o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau hwnnw, roi hysbysiad o’r apêl i feddiannwyr eiddo yng nghyffiniau’r safle y mae’r hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus yn ymwneud ag ef.

Effaith peidio â chydymffurfio â hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, etc.

18. Mae adrannau 178 i 181 o’r DCGTh yn cael effaith mewn perthynas â hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 4.

Y gofrestr hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus

19.(1) Rhaid i awdurdod sylweddau peryglus gadw cofrestr sy’n cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn cysylltiad â phob hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus a ddyroddir ganddynt—

(a)     cyfeiriad y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef;

(b)     y dyddiad y cyflwynir copïau o’r hysbysiad;

(c)     datganiad o’r tramgwydd honedig yn erbyn y rheolaeth o sylweddau peryglus, y camau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad i unioni’r tramgwydd, ac o fewn pa gyfnod y mae’r camau hynny i’w cymryd;

(d)     y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y mae’r hysbysiad i gael effaith;

(e)     dyddiad ac effaith unrhyw amrywiad i’r hysbysiad;

(f)      dyddiad unrhyw apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn yr hysbysiad a dyddiad penderfynu’r apêl yn derfynol.

(2) Rhaid dileu’r cofnod sy’n ymwneud â’r hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus a phopeth sy’n ymwneud â’r hysbysiad o’r gofrestr os yw’r hysbysiad yn cael ei ddiddymu gan Weinidogion Cymru neu ei dynnu yn ôl.

(3) Rhaid i’r gofrestr gynnwys mynegai o gofnodion yn y gofrestr.

(4) Rhaid gwneud pob cofnod yn y gofrestr o fewn 14 o ddiwrnodau i’r dyddiad y mae’r wybodaeth berthnasol ar gael i’r awdurdod sylweddau peryglus.

(5) Rhaid cadw’r gofrestr ym mhrif swyddfa’r awdurdod sylweddau peryglus.

(6) Rhaid sicrhau bod pob cofrestr a gedwir o dan y rheoliad hwn ar gael i’r cyhoedd gael edrych arno ar bob adeg resymol.

Dilysrwydd, etc.

20.(1) Mae adrannau 285 a 289(1), (3) i (4A) a (5) i (7) o’r DCGTh yn gymwys mewn perthynas â hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir yn Rhan 3 o Atodlen 4.

(2) Mae adran 25(2) o’r DCSP yn ddarostyngedig i unrhyw orchymyn o dan adran 289(4A) o’r DCGTh, fel y’i cymhwysir gan baragraff (1). 

Dehongli’r DCGTh at ddibenion y Rhan hon

21.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys at ddibenion dehongli’r DCGTh wrth ei chymhwyso, yn rhinwedd y Rhan hon, i hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus.

(2) Pan fo adran o’r DCGTh yn cyfeirio at adran arall o’r DCGTh a addaswyd gan y Rheoliadau hyn, mae’r cyfeiriad i’w ddarllen fel cyfeiriad at yr adran fel y’i haddaswyd.

RHAN 5

Materion eraill yn ymwneud â chydsyniad sylweddau peryglus (y gofrestr cydsyniadau, ffioedd, cymhwyso’r DCSP i awdurdodau sylweddau peryglus a hysbysu sefydliadau eraill)

Y gofrestr cydsyniadau

22.(1) Rhaid i’r gofrestr sy’n ofynnol gan adran 28(1) o’r DCSP gael ei chadw mewn 6 rhan—

(a)     rhaid i Ran 1 gynnwys manylion pob cais am gydsyniad sylweddau peryglus a wneir i’r awdurdod sylweddau peryglus ac sydd heb ei benderfynu’n derfynol;

(b)     rhaid i Ran 2 gynnwys, mewn cysylltiad â phob cais am gydsyniad sylweddau peryglus a wneir i’r awdurdod sylweddau peryglus—

                           (i)    manylion y cais;

                         (ii)    manylion unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan adran 20 o’r DCSP;

                       (iii)    manylion am benderfyniad (os oes un) yr awdurdod, gan gynnwys manylion unrhyw amodau y rhoddwyd cydsyniad yn ddarostyngedig iddynt a dyddiad y penderfyniad; a

                        (iv)    rhif cyfeirnod, dyddiad ac effaith unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru, pa un ai ar gais sydd wedi ei gyfeirio o dan adran 20 o’r DCSP neu apêl o dan adran 21 o’r DCSP;

(c)     rhaid i Ran 3 gynnwys manylion pob gorchymyn sy’n dirymu neu’n addasu cydsyniad sylweddau peryglus a wnaed gan yr awdurdod sylweddau peryglus a dyddiad ac effaith unrhyw gadarnhad gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 15 o’r DCSP;

(d)     rhaid i Ran 4 gynnwys, mewn cysylltiad â phob cydsyniad sylweddau peryglus y tybir ei roi o dan adran 11(3) o’r DCSP, fanylion yr hawliad;

(e)     rhaid i Ran 5 gynnwys manylion pob cydsyniad sylweddau peryglus y tybir ei roi yn rhinwedd cyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru neu adran o lywodraeth y Deyrnas Unedig o dan adran 12 o’r DCSP; a

(f)      rhaid i Ran 6 gynnwys manylion unrhyw gyfarwyddyd o dan adran 27 o’r DCSP a anfonwyd i’r awdurdod gan Weinidogion Cymru.

(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad sylweddau peryglus o dan adran 177 o’r DCGTh ar benderfynu apêl yn erbyn hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus ar gyfer y tir y mae’r cydsyniad yn ymwneud ag ef nodi dyddiad ac effaith y penderfyniad hwnnw yn Rhan 2 o’r gofrestr.

(3) Rhaid i’r gofrestr gynnwys mynegai o gofnodion yn y gofrestr.

(4) Rhaid gwneud pob cofnod yn y gofrestr o fewn 14 o ddiwrnodau i’r dyddiad y mae’r wybodaeth berthnasol ar gael i’r awdurdod sylweddau peryglus.

(5) Rhaid cadw’r gofrestr ym mhrif swyddfa’r awdurdod sylweddau peryglus.

(6) At ddibenion paragraff (1)(a), ni chaiff cais ei drin fel petai wedi ei benderfynu yn derfynol oni bai—

(a)     bod yr awdurdod sylweddau peryglus wedi penderfynu yn ei gylch a bod y cyfnod a bennir yn rheoliad 13(1) wedi dod i ben heb fod unrhyw apêl wedi ei gwneud i Weinidogion Cymru;

(b)     y’i cyfeiriwyd at Weinidogion Cymru o dan adran 20 o’r DCSP neu fod apêl wedi ei gwneud i Weinidogion Cymru o dan adran 21 o’r DCSP, bod penderfyniad Gweinidogion Cymru wedi ei ddyroddi a bod y cyfnod o 6 wythnos a bennir yn adran 22(1) o’r DCSP wedi dod i ben heb fod unrhyw gais wedi ei wneud i’r Uchel Lys o dan yr adran honno;

(c)     bod cais wedi ei wneud i’r Uchel Lys o dan adran 22 o’r DCSP a bod y mater wedi ei benderfynu, naill ai wrth i’r Llys wrthod y cais yn derfynol neu wrth ddiddymu penderfyniad Gweinidogion Cymru a dyroddi penderfyniad newydd (heb fod cais pellach o dan adran 22 o’r DCSP yn cael ei wneud yn y ffordd briodol); neu 

(d)     bod y ceisydd wedi ei dynnu’n ôl cyn iddo gael ei benderfynu; neu

(e)     bod y ceisydd wedi tynnu apêl o dan adran 21 neu gais o dan adran 22 yn ôl cyn bod penderfyniad Gweinidogion Cymru wedi ei ddyroddi.

(7) Pan fo’r rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol darparu manylion cais, cyfarwyddyd, cydsyniad, ffurflen hawlio neu hysbysiad yn y gofrestr, rhaid darparu’r canlynol—

(a)     manylion y person sy’n rheoli’r tir y mae’r cais, y cyfarwyddyd, y cydsyniad, y ffurflen hawlio neu’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, pan fo’n gymwys; a

(b)     y categori yng Ngholofn 1 o Ran 1 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn y mae unrhyw sylwedd sy’n destun y cais, y cyfarwyddyd, y cydsyniad, y ffurflen hawlio neu’r hysbysiad yn perthyn iddo.

Ffioedd ar gyfer ceisiadau

23.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid talu ffi i awdurdod sylweddau peryglus ar gyfer cais am gydsyniad sylweddau peryglus fel a ganlyn—

(a)     os yw adran 13(1) o’r DCSP yn gymwys (cydsyniad newydd heb amodau blaenorol), £200;

(b)     os nad yw adran 13(1) o’r DCSP yn gymwys a bod y maintioli a bennir yn y cais fel yr uchafswm maintioli y bwriedir iddo fod yn bresennol yn fwy na dwywaith y maintioli sydd dan reolaeth, £400; ac

(c)     ym mhob achos arall, £250.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid talu ffi o £200 i awdurdod sylweddau peryglus wrth wneud cais i barhau cydsyniad sylweddau peryglus o dan adran 17(1) o’r DCSP.

(3) Pan fo ceisiadau sy’n ymwneud â’r un safle yn cael eu gwneud i ddau awdurdod sylweddau peryglus neu ragor, dim ond i awdurdod yr ardal y mae’r rhan fwyaf o’r safle wedi ei lleoli ynddi y telir y ffi a’r swm sy’n daladwy yw’r swm a fyddai’n daladwy pe byddai’r cais yn un a oedd i’w wneud i un awdurdod mewn perthynas â’r safle cyfan.

(4) Rhaid i unrhyw ffi sy’n ddyledus mewn cysylltiad â chais fynd ynghyd â’r cais pan gaiff ei wneud i’r awdurdod sylweddau peryglus.

(5) Rhaid ad-dalu unrhyw ffi yn unol â’r rheoliad hwn os yw’r cais yn cael ei wrthod fel un annilys.

Ffioedd ar gyfer ceisiadau tybiedig

24.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid talu ffi i Weinidogion Cymru ym mhob achos pan dybir bod cais am gydsyniad sylweddau peryglus wedi ei wneud yn rhinwedd adran 177(5) o DCGTh (o ganlyniad i apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf honno yn erbyn hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus).

(2) Mae’r ffi a grybwyllir ym mharagraff (1) yn daladwy gan bob person sydd wedi gwneud apêl ddilys yn erbyn yr hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus perthnasol ac nad yw ei apêl wedi ei thynnu’n ôl cyn y dyddiad y dyroddir hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (4).

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), y ffi sy’n daladwy yw’r swm a fyddai’n daladwy o dan reoliad 23 pe byddai’r cais yn gais yr oedd y rheoliad hwnnw yn gymwys iddo.

(4) Rhaid talu’r ffi sy’n ddyledus ar yr adeg y caiff Gweinidogion Cymru yn yr achos penodol ei bennu drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r apelydd.

(5) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r apelydd—

(a)     cyn y dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, wedi gwneud cais i’r awdurdod sylweddau peryglus am gydsyniad sylweddau peryglus ar gyfer presenoldeb maintioli’r sylwedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, ac wedi talu’r ffi daladwy i’r awdurdod mewn cysylltiad â’r cais hwnnw, neu

(b)     cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y bydd yn cael effaith, wedi gwneud apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn y ffaith fod yr awdurdod sylweddau peryglus wedi gwrthod rhoi cydsyniad,

ac ar y dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad perthnasol nid oedd y cais hwnnw wedi ei benderfynu neu, yn achos apêl a wnaed cyn y dyddiad hwnnw, nid oedd yr apêl honno wedi ei phenderfynu.

(6) Rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu unrhyw ffi a dalwyd mewn cysylltiad â’r cais tybiedig i’r apelydd—

(a)     os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod awdurdodaeth ynghylch yr apêl berthnasol ar y sail nad yw’n cydymffurfio ag un neu ragor o ofynion is-adrannau (1) i (3) o adran 174 o’r DCGTh;

(b)     os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod yr apêl berthnasol wrth arfer y pwerau o dan adran 176(3)(a) o’r DCGTh (ar y sail bod yr apelydd wedi methu â chydymffurfio ag adran 174(4) o’r Ddeddf honno);

(c)     os yw Gweinidogion Cymru yn caniatáu’r apêl berthnasol ac yn diddymu’r hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus perthnasol wrth arfer y pwerau o dan adran 176(3)(b) o’r DCGTh (ar y sail bod yr awdurdod sylweddau peryglus wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 17(2) o’r Rheoliadau hyn);

(d)     os yw’r apêl berthnasol yn cael ei thynnu’n ôl ac o ganlyniad bod o leiaf 21 o ddiwrnodau rhwng y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn cael yr hysbysiad ysgrifenedig am y tynnu’n ôl ac—

                           (i)    y dyddiad (neu yn achos gohiriad, y dyddiad hwyraf) a bennir ar gyfer cynnal ymchwiliad neu wrandawiad ar gyfer yr apêl honno; neu

                         (ii)    yn achos apêl sy’n cael ei thrin drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig, y dyddiad (neu yn achos gohiriad, y dyddiad hwyraf) a bennir ar gyfer arolygu’r safle y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef;

(e)     os yw’r awdurdod sylweddau peryglus yn tynnu’r hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus perthnasol yn ôl cyn iddo gael effaith, neu os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu nad oes grym i’r hysbysiad;

(f)      os yw Gweinidogion Cymru yn caniatáu’r apêl berthnasol ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau a nodir yn adran 174(2)(b) i (e) o’r DCGTh; neu

(g)     os yw Gweinidogion Cymru yn caniatáu’r apêl berthnasol ar y sail bod yr hysbysiad yn annilys, neu ei fod yn cynnwys nam, gwall neu gamddisgrifiad na ellir ei gywiro o dan adran 176(1)(a) o’r DCGTh.

(7) Pan fo hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus yn cael ei amrywio o dan adran 176(1) o’r DCGTh ac eithrio er mwyn ystyried rhoi cydsyniad sylweddau peryglus o dan adran 177(1) o’r DCGTh, a byddai’r ffi a gyfrifir yn unol â pharagraff (3) wedi bod yn swm llai pe bai’r hysbysiad gwreiddiol wedi bod ar delerau’r hysbysiad sydd wedi ei amrywio, y ffi sy’n daladwy yw’r swm llai hwnnw a rhaid ad-dalu unrhyw swm dros ben a dalwyd eisoes.

(8) Wrth benderfynu ffi o dan baragraff (7) ni chaniateir ystyried unrhyw newid i’r ffioedd sy’n cael effaith ar ôl gwneud y cais tybiedig.

Cymhwyso’r DCSP i awdurdodau sylweddau peryglus

25.(1) Rhaid i unrhyw gais gan awdurdod sylweddau peryglus am gydsyniad sylweddau peryglus gael ei wneud i Weinidogion Cymru.

(2) Mae rheoliadau 5 i 8, 10 ac 11(2) yn gymwys i wneud cais o’r fath fel y maent yn gymwys i geisiadau a wneir i awdurdod sylweddau peryglus.

(3) At ddiben rheoliad 22, mae cais a wneir i Weinidogion Cymru gan awdurdod sylweddau peryglus i’w drin fel cais a wneir i’r awdurdod sylweddau peryglus a’i gyfeirio at Weinidogion Cymru o dan adran 20 o’r DCSP.

(4) Mae adran 9 (ac eithrio is-adran (2)(e)) o’r DCSP yn gymwys mewn perthynas â chais a wneir i Weinidogion Cymru gan awdurdod sylweddau peryglus fel y mae’n gymwys mewn perthynas â chais a wneir i awdurdod sylweddau peryglus.

(5) At ddiben adran 22 o’r DCSP, mae penderfyniad Gweinidogion Cymru ynghylch cais a wneir iddynt gan awdurdod sylweddau peryglus i’w drin fel penderfyniad o dan adran 20 o’r DCSP.

RHAN 6

Polisïau ac ymgynghoriad a chyfranogiad cyhoeddus

Polisïau

26.(1) Wrth baratoi,  adolygu neu addasu unrhyw bolisi perthnasol, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y materion a ganlyn yn cael eu hystyried—

(a)     amcanion atal damweiniau mawr a chyfyngu ar ganlyniadau damweiniau o’r fath ar gyfer iechyd dynol a’r amgylchedd; a

(b)     y materion y cyfeirir atynt yn Erthygl 13(2) o’r Gyfarwyddeb.

(2) Yn y rheoliad hwn ystyr “polisi perthnasol” (“relevant policy”) yw Cynllun Gofodol Cymru; ac unrhyw bolisi cynllunio defnydd tir, llwybrau trafnidiaeth neu harbwr pysgodfa cenedlaethol cyfredol pan fo’r polisi hwnnw ym marn Gweinidogion Cymru yn ymwneud â materion sy’n effeithio ar risgiau neu ganlyniadau damwain fawr.

(3) Mae i ymadroddion sy’n ymddangos yn y rheoliad hwn ac yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr at ddibenion y rheoliad hwn ag a roddir iddynt at ddibenion y Gyfarwyddeb.

Cynlluniau a rhaglenni

27.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod cyfrifol yn bwriadu paratoi, adolygu neu addasu cynllun neu raglen berthnasol.

(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—

(a)     cymryd y fath fesurau y mae’n eu hystyried yn briodol i sicrhau bod ymgyngoreion cyhoeddus yn cael cyfleoedd cynnar ac effeithiol i gymryd rhan yng ngwaith paratoi, addasu neu adolygu’r cynllun neu’r rhaglen berthnasol; a

(b)     wrth wneud hynny, gymryd y fath fesurau y mae’n eu hystyried yn briodol i sicrhau—

                           (i)    bod ymgyngoreion cyhoeddus yn cael gwybod am unrhyw gynigion i baratoi, addasu neu adolygu cynllun neu raglen berthnasol;

                         (ii)    bod gwybodaeth berthnasol am gynigion o’r fath ar gael i ymgyngoreion cyhoeddus, gan gynnwys gwybodaeth am yr hawl i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau ac am yr awdurdod y caniateir cyflwyno sylwadaethau neu gwestiynau iddo; 

                       (iii)    bod hawl gan ymgyngoreion cyhoeddus i fynegi sylwadaethau a barn pan fo’r holl opsiynau yn agored cyn y gwneir penderfyniadau ynghylch y cynllun a’r rhaglen berthnasol; a

                        (iv)    bod unrhyw gyfnodau a ddarperir ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd o dan y rheoliad hwn yn caniatáu amser digonol i ymgyngoreion cyhoeddus baratoi a chymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau mewn perthynas â’r cynllun neu’r rhaglen berthnasol;

(c)     ystyried canlyniadau cyfranogiad y cyhoedd o ran gwneud y penderfyniadau hynny; a

(d)     cymryd y fath fesurau y mae’n eu hystyried yn briodol i roi gwybod i’r ymgyngoreion cyhoeddus am y  penderfyniadau a wnaed a’r rhesymau a’r ystyriaethau y seiliwyd y penderfyniadau hynny arnynt, gan gynnwys gwybodaeth am broses gyfranogiad y cyhoedd.

(3) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i gynllun neu raglen berthnasol y mae gweithdrefn cyfranogiad y cyhoedd yn cael ei weithredu mewn perthynas ag ef o dan Ran 3 o Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004([17]).

(4) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “awdurdod cyfrifol” (“responsible authority”) yw—

(a)     yr awdurdod y mae cynllun neu raglen berthnasol yn cael ei baratoi neu ei pharatoi ganddo neu ar ei ran; a

(b)     pan fo’r awdurdod hwnnw, ar unrhyw adeg benodol, yn peidio â bod yn gyfrifol, neu’n gwbl gyfrifol, am gymryd camau mewn perthynas â’r cynllun neu’r rhaglen, y person sy’n gyfrifol (yn unigol neu ar y cyd â’r awdurdod), ar yr adeg honno, am gymryd y camau hynny;

ystyr “cynllun neu raglen berthnasol” (“relevant plan or programme”) yw cynllun neu raglen gyffredinol sy’n ymwneud ag

(a)     cynllunio ar gyfer sefydliadau newydd yn unol ag Erthygl 13 o’r Gyfarwyddeb, neu

(b)     datblygiadau newydd o amgylch sefydliadau pan allai’r lleoliad neu’r datblygiadau gynyddu’r risg o ddamwain fawr neu ychwanegu at ganlyniadau damwain fawr yn unol ag Erthygl 13 o’r Gyfarwyddeb; ac

ystyr “ymgyngoreion cyhoeddus” (“public consultees”) yw personau y mae’r awdurdod cyfrifol yn ymwybodol ohonynt, gan gynnwys unrhyw sefydliad anllywodraethol sy’n hyrwyddo gwaith diogelu’r amgylchedd, y mae’r cynllun neu’r rhaglen berthnasol dan sylw yn effeithio arnynt neu’n debygol o effeithio arnynt, neu sydd â buddiant yn y cynllun neu’r rhaglen honno.

(5) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i Weinidog y Goron (fel y diffinnir “Minister of the Crown” yn adran 8(1) o Ddeddf Gweinidogion y Goron 1975([18])) nac adran o Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

(6) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gynllun neu raglen berthnasol sy’n ymwneud â Chymru gyfan neu unrhyw ran ohoni, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (5).

(7) Caiff unrhyw gamau a gymerir cyn 4 Medi 2015 mewn perthynas â chynllun neu raglen berthnasol eu trin fel camau a gymerir at ddibenion y rheoliad hwn.

Cymeradwyaethau cynllunio eraill ar gyfer prosiectau

28.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan geisir am gydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall ar gyfer prosiect perthnasol oddi wrth awdurdod cymwys.

(2) Cyn penderfynu rhoi unrhyw gydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall ar gyfer prosiect perthnasol i gynllunio defnydd tir, llwybr trafnidiaeth neu harbwr pysgodfa, rhaid i awdurdod cymwys gymryd y fath fesurau y mae’n eu hystyried yn briodol i sicrhau—

(a)     yr hysbysir y cyhoedd gan hysbysiadau cyhoeddus neu ddulliau priodol eraill, gan gynnwys cyfathrebiadau electronig os ydynt ar gael, o’r materion a ganlyn yn gynnar yn y weithdrefn ar gyfer gwneud penderfyniad neu, fan bellaf, gyn gynted ag y gellir yn rhesymol ddarparu’r wybodaeth—

                           (i)    pwnc y prosiect perthnasol;

                         (ii)    pan fo’n gymwys, y ffaith bod y prosiect yn ddarostyngedig i asesiad effaith amgylcheddol cenedlaethol neu drawsffiniol neu ymgyngoriadau rhwng Aelod-wladwriaethau yn unol ag Erthygl 14(3) o’r Gyfarwyddeb;

                       (iii)    manylion yr awdurdod cymwys sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniad, y gellir cael gwybodaeth berthnasol oddi wrtho ac y gellir cyflwyno sylwadaethau neu gwestiynau iddo;

                        (iv)    awgrym o’r amserau a’r mannau lle y bydd yr wybodaeth berthnasol ar gael, neu’r dulliau y bydd ar gael;

                          (v)    manylion y cyfnod ar gyfer trosglwyddo sylwadaethau neu gwestiynau; a

                        (vi)    natur penderfyniadau posibl neu, os oes un, y penderfyniad drafft;

(b)     yr ymgynghorir â’r awdurdod COMAH cymwys ynghylch y prosiect;

(c)     bod y prif adroddiadau a chyngor a ddyroddir i’r awdurdod cymwys ar yr adeg pan hysbyswyd y cyhoedd dan sylw yn unol â pharagraff (2)(a) ar gael i’r cyhoedd dan sylw ar yr adeg honno;

(d)     bod hawl gan y cyhoedd dan sylw i fynegi sylwadaethau a barn i’r awdurdod cymwys cyn bod penderfyniad yn cael ei wneud; ac

(e)     bod canlyniadau’r ymgyngoriadau a gynhelir yn unol â’r rheoliad hwn yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniad.

(3) Ar ôl penderfynu pa un ai i roi unrhyw gydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall ar gyfer prosiect perthnasol, rhaid i’r awdurdod cymwys sicrhau bod y canlynol ar gael i’r cyhoedd—

(a)     cynnwys y penderfyniad a’r rhesymau sy’n sail iddo, gan gynnwys unrhyw ddiweddariadau dilynol;

(b)     canlyniadau’r ymgyngoriadau a gynhaliwyd cyn gwneud y penderfyniad ac esboniad am sut y’u hystyriwyd wrth wneud y penderfyniad hwnnw.

(4) I’r graddau y mae eisoes yn ofynnol o dan unrhyw ddeddfiad i’r awdurdod cymwys gymryd unrhyw un neu ragor o’r camau a nodir ym mharagraffau (2) neu (3) o’r rheoliad hwn, nid yw’r paragraffau hynny yn gymwys.

(5) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “awdurdod cymwys” (“competent authority”) yw Gweinidogion Cymru,  awdurdod lleol neu awdurdod arall sydd â chyfrifoldeb am benderfynu pa un ai i roi cydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall y cyfeirir ato ym mharagraff (1);

ystyr “y cyhoedd dan sylw” (“the public concerned”) yw personau, gan gynnwys unrhyw sefydliad anllywodraethol sy’n hyrwyddo gwaith diogelu’r amgylchedd, y mae gwneud penderfyniad i roi cydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn effeithio arnynt neu’n debygol o effeithio arnynt, neu sydd â buddiant ynddo; ac

ystyr “prosiect perthnasol” (“relevant project”) yw—

(a)     datblygiad sy’n dod o fewn paragraffau (c), (ca) neu (s) o Atodlen 4 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012([19]);

(b)     gwaith y tu hwnt i’r marc distyll cymedrig a fwriedir mewn perthynas â harbwr pysgodfa yng Nghymru naill ai—

                           (i)    mewn ardal y mae’r awdurdod COMAH cymwys wedi hysbysu’r awdurdod cymwys amdani at ddibenion y paragraff hwn ac sy’n debygol o arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y personau sy’n byw neu’n gweithio yn yr ardal yr hysbyswyd amdani neu sy’n ymweld â hi; neu

                         (ii)    pan allai’r lleoliad neu’r gwaith fel arall gynyddu’r risg o ddamwain fawr neu ychwanegu at ganlyniadau damwain fawr; neu

(c)     sefydliad newydd.

(6) Yn y rheoliad hwn, ystyr cyfeiriad at roi cydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall yw—

(a)     rhoi caniatâd cynllunio i gais o dan Ran 3 o’r DCGTh([20]) (rheolaeth dros ddatblygu);

(b)     rhoi caniatâd cynllunio i gais o dan adran 293A o’r Ddeddf honno([21]) (datblygiad brys y Goron)([22]);

(c)     rhoi caniatâd cynllunio, neu gadarnhau penderfyniad yr awdurdod cynllunio lleol i roi caniatâd cynllunio (pa un ai yn ddarostyngedig i’r un amodau a therfynau â’r rheini a osodir gan yr awdurdod cynllunio lleol ai peidio), ynghylch penderfynu apêl o dan adran 78 o’r Ddeddf honno (yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio)([23]) mewn cysylltiad â chais o’r fath;

(d)     rhoi caniatâd cynllunio o dan—

                           (i)    adran 141(2)(a) o’r Ddeddf honno (camau gweithredu mewn perthynas â hysbysiad prynu); neu

                         (ii)    adran 177(1)(a) o’r Ddeddf honno (rhoi neu addasu caniatâd cynllunio yn dilyn apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi);

(e)     cyfarwyddo o dan is-adran (1) neu (2A) o adran 90 o’r Ddeddf honno (datblygiad gydag awdurdodiad y llywodraeth) y tybir bod caniatâd cynllunio wedi ei roi;

(f)      gwneud—

                           (i)    gorchymyn datblygu lleol o dan adran 61A o’r DCGTh([24]);

                         (ii)    parth cynllunio syml o dan adran 82 o’r Ddeddf honno;

                       (iii)    gorchymyn sy’n dynodi ardal fenter o dan Atodlen 32 o Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980([25]);

                        (iv)    gorchymyn o dan adran 102 o’r DCGTh (gorchmynion sy’n ei gwneud yn ofynnol peidio â pharhau i ddefnyddio adeiladau neu weithfeydd neu eu haddasu neu eu diddymu)([26]), gan gynnwys gorchymyn a wneir o dan yr adran honno yn rhinwedd adran 104 o’r Ddeddf honno (pwerau mewn perthynas â gorchmynion adran 102) sy’n rhoi caniatâd cynllunio neu sy’n cadarnhau unrhyw orchymyn o’r fath o dan adran 103 o’r Ddeddf honno (cadarnhau gorchmynion adran 102); 

                          (v)    gorchymyn o dan baragraff 1 o Atodlen 9 i’r Ddeddf honno (gorchymyn sy’n ei gwneud hi’n ofynnol peidio â pharhau i weithio mwynau)([27]), gan gynnwys gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw yn rhinwedd paragraff 11 o’r Atodlen i’r Ddeddf honno (pwerau mewn perthynas â gorchmynion o dan Atodlen 9) sy’n rhoi caniatâd cynllunio;

                        (vi)    gorchymyn o dan adran 14 (pwerau Gweinidogion, ynghylch ceisiadau awdurdodau harbyrau, neu eraill, i wneud gorchmynion ar gyfer sicrhau effeithlonrwydd harbyrau, etc.) neu adran 16(1) neu (2) (pwerau Gweinidogion, ynghylch ceisiadau darpar ymgymerwyr, neu eraill, i wneud gorchmynion sy’n rhoi pwerau i wella, adeiladu, etc. harbyrau) o Ddeddf Harbyrau 1964([28]); 

(g)     awdurdodi gwaith mewn harbwr pysgodfa yn unol â phwerau sydd wedi eu cynnwys mewn gorchymyn o dan adran 14(1) neu 16(1) neu (2) o Ddeddf Harbyrau 1964;

(h)     cyfarwyddo o dan y darpariaethau a ganlyn os gwneir cais am ganiatâd cynllunio, rhaid iddo gael ei roi o dan—

                           (i)    adran 141(3) o’r Ddeddf honno (camau gweithredu mewn perthynas â hysbysiad prynu); neu

                         (ii)    adran 35(5) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (camau gweithredu mewn perthynas â hysbysiad prynu adeilad rhestredig)([29]);

(i)      gwneud gorchymyn o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Priffyrdd 1980([30]) mewn perthynas â gwaith a gyflawnir gan Weinidogion Cymru—

                           (i)    adran 10 (darpariaeth gyffredinol o ran cefnffyrdd);

                         (ii)    adran 14 (pwerau o ran ffyrdd sy’n croesi cefnffyrdd neu ffyrdd dosbarthiadol neu sy’n ymuno â hwy);

                       (iii)    adran 18 (gorchmynion atodol sy’n ymwneud â ffyrdd arbennig);

(j)      llunio cynllun o dan adran 16 o Ddeddf Priffyrdd 1980 mewn perthynas â gwaith a gyflawnir gan Weinidogion Cymru;

(k)     cyfarwyddo o dan adran 12 o’r DCSP y tybir bod cydsyniad sylweddau peryglus wedi ei roi;

(l)      rhoi cydsyniad sylweddau peryglus o dan adran 20 o’r DCSP; a

(m)   rhoi cydsyniad sylweddau peryglus o dan adran 177(1)(a) o’r DCGTh (fel y’i cymhwysir i hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus ac y’i haddaswyd gan reoliad 16 ac Atodlen 4).

(7) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i benderfyniad i ymgymryd â gwaith o dan adran 24(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (adeiladu priffyrdd newydd), nad yw’n ymwneud ag arfer unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau paragraff 6(i) neu (j) fel petai’n “gydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall” y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

(8) Mewn perthynas ag unrhyw gydsyniad, caniatâd neu awdurdodiad arall sy’n dod o fewn paragraff (6) neu (7) sy’n gallu cael ei amrywio neu ei addasu, rhaid i’r awdurdod cymwys ymdrin â’r addasiad neu’r amrywiad fel petai’n gydsyniad, yn ganiatâd neu’n awdurdodiad arall ar gyfer prosiect perthnasol at ddibenion y rheoliad hwn pan fo’r addasiad neu’r amrywiad hwnnw yn awdurdodi datblygiad sy’n dod o fewn paragraff (s) o’r Tabl yn Atodlen 4 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012.

(9) Yn y rheoliad hwn, mae i “sefydliad newydd” yr un ystyr ag sydd i “new establishment” yn Erthygl 3 o’r Gyfarwyddeb.

RHAN 7

Dirymiadau, diwygiadau, arbedion a darpariaethau trosiannol a chymhwyso i’r Goron

Dehongli’r Rhan hon

29. Yn y Rhan hon, ystyr “dyddiad cychwyn” (“commencement date”) yw 4 Medi 2015.

Dirymiadau

30.(1) Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu i’r graddau a bennir, yn ddarostyngedig i’r arbedion a’r darpariaethau trosiannol a nodir yn y Rhan hon—

 

(1)Y Rheoliadau a ddirymir

(2) Cyfeiriadau

 

(3) Graddau’r dirymu

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992

O.S. 1992/656

 

Y Rheoliadau cyfan

 

Rheoliadau Cynllunio (Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr) 1999

O.S. 1999/981

 

Y Rheoliadau cyfan 

 

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cymhwyso Is-ddeddfwriaeth i’r Goron) 2006

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Diwygio) (Cymru) 2010

O.S. 2006/1282

 

 

 

 

 

O.S. 2010/450 (Cy. 48)

 

Erthygl 10

 

 

 

 

 

Y Rheoliadau cyfan

 

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Diwygio) (Cymru) 2014

O.S. 2014/375 (Cy. 43)

Y Rheoliadau cyfan

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2014

O.S. 2014/2777 (Cy. 283)

Y Rheoliadau cyfan

Ceisiadau trosiannol ac apelau

31.(1) Os nad yw cais neu apêl yn ymwneud â chydsyniad sylweddau peryglus a wnaed yn unol â Rheoliadau 1992 wedi ei benderfynu neu ei phenderfynu erbyn y dyddiad cychwyn, ystyrir bod y cais neu’r apêl wedi ei wneud neu ei gwneud o dan y Rheoliadau hyn.

(2) Ystyrir bod unrhyw beth a wnaed o dan Reoliadau 1992 mewn perthynas â’r cais hwnnw neu’r apêl honno cyn y dyddiad cychwyn wedi ei wneud o dan y Rheoliadau hyn. 

Dehongli cydsyniadau presennol

32.(1) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cydsyniad perthnasol” (“relevant consent”) yw cydsyniad sylweddau peryglus a roddwyd o dan Reoliadau 1992 neu gydsyniad tybiedig a hawliwyd cyn y dyddiad cychwyn y mae’r canlynol wedi eu hawdurdodi’n bendant oddi tano—

(a)     presenoldeb categori o sylwedd a restrir yng ngholofn 1 o Ran B o Atodlen 1 i Reoliadau 1992; neu

(b)     presenoldeb sylwedd a enwir yng ngholofn 1 o Ran A o Atodlen 1 i Reoliadau 1992.

(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gydsyniad perthnasol—

(a)     pan na fo’r categori neu’r sylwedd y cyfeirir ato ym mharagraff (1) uchod wedi ei gynnwys yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn; neu

(b)     pan fo’r categori neu’r sylwedd y cyfeirir ato ym mharagraff (1) uchod wedi ei enwi neu ei ddiffinio yn wahanol o dan Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.

(3) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys mae cyfeiriadau mewn cydsyniad perthnasol at gategori neu sylwedd y cyfeirir ato ym mharagraff (1) i’w dehongli fel pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi dod i rym.

Arbed ar gyfer amodau cydsyniad tybiedig 

33.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw gydsyniad y tybir ei fod wedi ei roi o dan adran 11 neu 30B o’r DCSP cyn y dyddiad cychwyn.

(2) Mewn perthynas ag unrhyw gydsyniad y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo—

(a)     mae’r amodau a nodir yn Atodlen 3 o Reoliadau 1992 yn parhau i fod yn gymwys (oni bai y dilëwyd unrhyw amod yn dilyn cais o dan adran 13 o’r DCSP); a

(b)     mae’r amodau hynny yn parhau i gael eu dehongli yn unol â rheoliad 15 o Reoliadau 1992. 

Hysbysu sefydliadau eraill

34.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)     pan fyddai cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol oni bai am yr esemptiad ym mharagraff 12 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn([31]); a

(b)     pan fo awdurdod sylweddau peryglus yn cael oddi wrth y person sy’n rheoli’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef hysbysiad ysgrifenedig sy’n cynnwys—

                           (i)    manylion lleoliad y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef a’r person sy’n rheoli’r tir;

                         (ii)    manylion y sylweddau peryglus a gedwir ar y safle, gan gynnwys y maintioli; a

                       (iii)    esboniad ynghylch pam bod paragraff 12 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn yn gymwys.

(2) Rhaid i’r awdurdod sylweddau peryglus, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael yr hysbysiad, anfon copi o’r hysbysiad i’r awdurdod COMAH cymwys.

(3) Rhaid i’r awdurdod COMAH cymwys, o fewn 8 wythnos o gael yr hysbysiad oddi wrth yr awdurdod sylweddau peryglus o dan baragraff (2), benderfynu a yw’r hysbysiad yn ymwneud â sefydliad sy’n dod o fewn ystyr y Gyfarwyddeb ac, os ydyw, hysbysu awdurdod cynllunio lleol yr ardal y mae’r sefydliad wedi ei leoli ynddi.

Diwygiadau

35. Mae Atodlen 5 i’r Rheoliadau hyn yn cael effaith.

Cymhwyso i’r Goron 

36. Mae’r  Rheoliadau hyn yn gymwys i’r Goron fel petai’r canlynol wedi ei fewnosod, yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn, ar ôl paragraff 1—

Tir milwrol

(1A) Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus mewn, ar, uwchben neu oddi tan dir sefydliadau, gosodiadau neu gyfleusterau storio milwrol.

 

 

 

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

3 Awst 2015

 


YR ATODLENNI

                                            ATODLEN 1                              Rheoliad 3

SYLWEDDAU PERYGLUS A’R MAINTIOLI SYDD DAN REOLAETH  

RHAN 1

Categorïau o sylweddau

Mae’r Rhan hon yn cwmpasu pob sylwedd peryglus sy’n perthyn i’r categorïau perygl a restrir yng Ngholofn 1:

 

Colofn 1 

Colofn 2

Categorïau perygl yn unol â’r Rheoliad DLPh

Maintioli sydd dan reolaeth mewn tunelli

 

 

Adran ‘H’ - PERYGLON I IECHYD

 

H1 GWENWYNIG ACÍWT Categori 1, pob llwybr amlygu

5

 

H2 GWENWYNIG ACÍWT

— Categori 2, pob llwybr amlygu

— Categori 3, llwybr amlygu anadlu (gweler nodyn 7)

50

 

H3 GPOD GWENWYNDRA PENODOL ORGAN DARGED - AMLYGIAD UNIGOL GPOD AU Categori 1

50

Adran ‘P’ – PERYGLON CORFFOROL

 

P1a FFRWYDRON (gweler nodyn 8)

— Ffrwydron ansefydlog neu

— Ffrwydron, Is-adran 1.1, 1.2, 1.3, 1.5 neu 1.6, neu

— Sylweddau neu gymysgeddau sydd â nodweddion ffrwydrol yn ôl dull A.14 o Reoliad

(EC) Rhif 440/2008 (gweler nodyn 9) ac nad ydynt yn perthyn i’r dosbarthiadau perygl perocsidau Organig na sylweddau a chymysgeddau Hunanadweithiol

10

P1b FFRWYDRON (gweler nodyn 8)

Ffrwydron, Is-adran 1.4 (gweler nodyn 10)

50

P2 NWYON FFLAMADWY Nwyon Fflamadwy, Categori 1 neu 2

10

 

P3a EROSOLAU FFLAMADWY (gweler nodyn 11.1) Erosolau ‘fflamadwy’ Categori 1 neu 2, sy’n cynnwys nwyon fflamadwy Categori 1 neu 2 neu hylifau fflamadwy Categori 1

150 (net)

 

P3b EROSOLAU FFLAMADWY (gweler nodyn 11.1) Erosolau ‘fflamadwy’ Categori 1 neu 2, nad ydynt yn cynnwys nwyon fflamadwy Categori 1 na 2 na hylifau fflamadwy Categori 1 (gweler nodyn 11.2)

5,000 (net)

 

P4 NWYON SY’N OCSIDIO

Nwyon sy’n ocsidio, Categori 1

50

 

P5a HYLIFAU FFLAMADWY

— Hylifau fflamadwy, Categori 1, neu

— Hylifau fflamadwy Categori 2 neu 3 a gynhelir ar dymheredd uwchlaw eu berwbwynt, neu

— Hylifau eraill sydd â fflachbwynt ≤ 60 °C, a gynhelir ar dymheredd uwchlaw eu berwbwynt (gweler nodyn 12)

10

 

P5b HYLIFAU FFLAMADWY

— Hylifau fflamadwy Categori 2 neu 3 pan fo amodau prosesu penodol, fel gwasgedd uchel neu dymheredd uchel, yn gallu creu peryglon o ran damwain fawr, neu

— Hylifau eraill sydd â fflachbwynt ≤ 60 °C pan fo amodau prosesu penodol, fel gwasgedd uchel neu dymheredd uchel, yn gallu creu peryglon o ran damwain fawr (gweler nodyn 12)

50

 

P5c HYLIFAU FFLAMADWY

Hylifau fflamadwy, Categorïau 2 neu 3 nad yw P5a na P5b yn eu cwmpasu

5,000

 

P6a SYLWEDDAU A CHYMYSGEDDAU HUNANADWEITHIOL a PHEROCSIDAU ORGANIG

Sylweddau a chymysgeddau hunanadweithiol, Math A neu B neu berocsidau organig, Math A neu B

10

 

P6b SYLWEDDAU A CHYMYSGEDDAU HUNANADWEITHIOL a PHEROCSIDAU ORGANIG

Sylweddau a chymysgeddau hunanadweithiol, Math C, D, E neu F neu berocsidau organig, Math C, D, E neu F

50

 

P7 HYLIFAU A SOLIDAU PYROFFORIG

Hylifau pyrofforig, Categori 1

Solidau pyrofforig, Categori 1

50

 

P8 HYLIFAU A SOLIDAU SY’N OCSIDIO

Hylifau sy’n Ocsidio, Categori 1, 2 neu 3, neu

Solidau sy’n Ocsidio, Categori 1, 2 neu 3

50

 

Adran ‘E’ – PERYGLON AMGYLCHEDDOL

 

E1 Peryglus i’r Amgylchedd Dyfrol yng Nghategori Acíwt 1 neu Gronig 1

100

 

E2 Peryglus i’r Amgylchedd Dyfrol yng Nghategori Cronig 2

200

 

Adran ‘O’ – PERYGLON ERAILL

 

O1 Sylweddau neu gymysgeddau sydd â datganiad perygl EUH014

100

 

O2 Sylweddau a chymysgeddau sy’n rhyddhau nwyon fflamadwy wrth ddod i gyswllt â dŵr, Categori 1

100

 

O3 Sylweddau neu gymysgeddau sydd â datganiad perygl EUH029

50

 

RHAN 2

Sylweddau peryglus a enwir

 

Colofn 1 

Rhif CAS (1)

Colofn 2 

Sylweddau peryglus

 

Maintioli sydd dan reolaeth (tunelli)

1. Amoniwm nitrad (gweler nodyn 13)

-

5000

2. Amoniwm nitrad (gweler nodyn 14)

-

1,250

 

3. Amoniwm nitrad (gweler nodyn 15)

-

350

 

4. Amoniwm nitrad (gweler nodyn 16)

-

10

 

5. Potasiwm nitrad (gweler nodyn 17)

-

5,000

 

6. Potasiwm nitrad (gweler nodyn 18)

-

1,250

 

7. Arsenig pentocsid, asid a/neu halwynau arsenig (V)

1303-28-2

 

1

 

8. Arsenig triocsid, asid a/neu halwynau arsenaidd (III)

1327-53-3

 

0.1

9. Bromin

7726-95-6

20

10. Clorin

7782-50-5

10

11. Cyfansoddion nicel ar ffurf powdwr y gellir ei anadlu i mewn: nicel monocsid, nicel deuocsid, nicel sylffid, trinicel deusylffid, deunicel triocsid

-

1

12. Ethylenamin

151-56-4

10

13. Fflworin

7782-41-4

10

14. Fformaldehyd (crynodiad ≥ 90%)

50-00-0

 

5

 

15. Hydrogen

1333-74-0

2

16. Hydrogen clorid (nwy hylifedig)

7647-01-0

 

25

 

17. Alcylau plwm

-

5

18. Nwyon fflamadwy hylifedig, Categori 1 neu 2 (gan gynnwys NPH) a nwy naturiol (gan gynnwys Nwy Naturiol Hylifedig) (gweler nodyn 19)

-

Nwy Naturiol (gan gynnwys Nwy Naturiol Hylifedig) (NNH): 15

Nwy Petrolewm Hylifedig (NPH): 25

Unrhyw nwyon fflamadwy hylifedig eraill: 50

19. Asetylen

74-86-2

5

20. Ethylen ocsid

75-21-8

5

21. Propylen ocsid

75-56-9

 

5

22. Methanol

67-56-1

500

23. 4, 4′-Methylen bis (2-cloranylen) a/neu halwynau, ar ffurf powdwr

101-14-4

 

0.01

24. Methylisocyanad

624-83-9

 

0.15

25. Ocsigen

7782-44-7

200

26. 2,4 -Tolwen deuisocyanad

2,6 -Tolwen deuisocyanad

584-84-9

 

91-08-7

 

10

 

27. Carbonyl deuclorid (ffosgen)

75-44-5

 

0.3

 

28. Arsin (arsenig trihydrid)

7784-42-1

 

0.2

 

29. Ffosffin (trihydrad ffosfforaidd)

7803-51-2

 

0.2

 

30. Sylffwr deuclorid

10545-99-0

 

1

31. Sylffwr triocsid

7446-11-9

 

15

 

32. Polyclorodeubensoffwranau a pholyclorodeubensodeuocsinau (gan gynnwys TCDD), wedi’u cyfrifo mewn TCDD cyfwerth (gweler nodyn 20)

-

0.001

33. Y CARSINOGENAU a ganlyn neu’r cymysgeddau sy’n cynnwys y carsinogenau a ganlyn mewn crynodiadau uwch na 5% yn ôl pwysau: 4-Aminobiffenyl a/neu ei halwynau, Bensotriclorid, Bensidin a/neu halwynau, Bis (cloromethyl) ether, Cloromethyl methyl ether, 1,2-Deubromoethan, Deuethyl sylffad, Deumethyl sylffad, Deumethylcarbamoyl clorid, 1,2-Deubromo-3-cloropropan, 1,2-Deumethylhydrasin, Deumethylnitrosamin, Hecsamethylffosfforig triamid, Hydrasin, 2- Naffthylamin a/neu halwynau, 4-Nitrodeuffenyl, ac 1,3 Propaneswlton

 

-

0.5

 

34. Cynhyrchion petrolewm a thanwyddau amgen (a) gasolinau a naffthau, (b) cerosinau (gan gynnwys tanwyddau jet), (c) olewau nwy (gan gynnwys tanwyddau disel, olewau cynhesu’r cartref a ffrydiau cymysgu olew nwy) (d) olewau tanwydd trwm (e) tanwyddau amgen sy’n diwallu’r un dibenion ac sydd â nodweddion tebyg o ran fflamadwyedd a pheryglon amgylcheddol i’r cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mhwyntiau (a) i (d)

-

2,500

 

35. Amonia Anhydrus

7664-41-7

50

36. Boron trifflworid

7637-07-2

5

37. Hydrogen sylffid

7783-06-4

5

38. Piperidin

110-89-4

50

39. Bis(2-deumethylaminoethyl) (methyl)amin

3030-47-5

50

 

40. 3-(2-Ethylhecsylocsi)propylamin

5397-31-9

50

41. Cymysgeddau (*) o sodiwm hypoclorit sydd wedi eu dosbarthu fel Dyfrol Acíwt Categori 1 [H400] sy’n cynnwys llai na  5% o glorin actif ac nad ydynt wedi eu dosbarthu o dan unrhyw un neu ragor o’r categorïau perygl eraill yn Rhan 1 o Atodlen 1.

(*) Ar yr amod na fyddai’r cymysgedd yn absenoldeb sodiwm hypoclorit yn cael ei ddosbarthu fel Dyfrol Acíwt Categori 1 [H400].

 

200

 

42. Propylamin (gweler nodyn 21)

107-10-8

500

43. Tert-biwtyl acrylad (gweler nodyn 21)

1663-39-4

200

44. 2-Methyl-3-biwtenenitril (gweler nodyn 21)

16529-56-9

 

500

 

45. Tetrahydro-3,5-deumethyl-1,3,5,-thiadiasin-2-thione (Dasomet) (gweler nodyn 21)

533-74-4

 

100

 

46. Methyl acrylad (gweler nodyn 21)

96-33-3

500

47. 3-Methylpyridin (gweler nodyn 21)

108-99-6

500

48. 1-Bromo-3-cloropropan (gweler nodyn 21)

109-70-6

 

500

 

RHAN 3

Sylweddau a ddefnyddir mewn proses gemegol ddiwydiannol

 

Colofn 1 Sylweddau Peryglus

Colofn 2 Maintioli sydd dan reolaeth

Pan fo’n rhesymol rhagweld y gall sylwedd sy’n dod o fewn Rhan 1 neu Ran 2 (“SP”) gael ei gynhyrchu wrth golli rheolaeth ar y prosesau, gan gynnwys gweithgareddau storio mewn unrhyw osodiad o fewn sefydliad, unrhyw sylwedd a ddefnyddir yn y broses honno (“S”).

Maintioli S y credir y gallai gynhyrchu (ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sylweddau eraill a ddefnyddir yn y broses berthnasol) swm cyfwerth â’r maintioli sydd dan reolaeth neu fwy o’r SP dan sylw.

(Gweler nodyn 23)

 

 

RHAN 4

Nodiadau i Rannau 1 i 3

1. Caiff sylweddau a chymysgeddau eu dosbarthu yn unol â’r Rheoliad DLPh([32]).

2. Rhaid trin cymysgeddau yn yr un ffordd â sylweddau pur ar yr amod eu bod yn parhau o fewn terfynau crynodiad a bennwyd yn unol â’u nodweddion o dan y Rheoliad DLPh, neu ei addasiad diweddaraf i gynnydd technegol, oni bai y rhoddir yn benodol gyfansoddiad canrannol neu ddisgrifiad arall.

3. Mae’r maintioli sydd dan reolaeth a bennir yn Rhannau 1 i 3 o’r Atodlen hon yn berthnasol i bob sefydliad.

Y maintioli sydd i’w ystyried ar gyfer cymhwyso’r Rheoliadau hyn yw’r maintioli mwyaf sy’n bresennol neu’n debygol o fod yn bresennol ar unrhyw un adeg.

4. Mae’r rheol a ganlyn sy’n rheoli ychwanegu sylweddau peryglus, neu gategorïau o sylweddau peryglus, yn gymwys pan fo’n briodol. 

Yn achos sefydliad pan na fo unrhyw sylwedd peryglus unigol yn bresennol o faintioli uwchlaw neu gyfwerth â’r maintioli sydd dan reolaeth perthnasol, rhaid cymhwyso’r rheol a ganlyn er mwyn penderfynu a yw gofynion perthnasol y Rheoliadau hyn yn cwmpasu’r sefydliad. 

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i sefydliadau os yw swm q1/QL1 + q2/QL2 + q3/QL3 + q4/QL4 + q5/QL5 + … yn fwy nag 1 neu’n gyfwerth ag 1,

pan fo

qx = maintioli’r sylwedd peryglus x (neu gategori o sylweddau peryglus) sy’n dod o fewn Rhan 1 neu Ran 2 o’r Atodlen hon; a

QLX = y maintioli sydd dan reolaeth perthnasol ar gyfer sylwedd peryglus neu gategori x o Golofn 2 o Ran 1 neu o Golofn 2 o Ran 2 o’r Atodlen hon, ac eithrio fel a nodir yn y paragraff a ganlyn.

At ddibenion cyfrifo QLX yn unig, pan fo’r sylwedd peryglus yn un a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl a ganlyn, mae’r maintioli sydd dan reolaeth perthnasol fel sydd wedi ei nodi yng ngholofn 2 o’r tabl A a ganlyn:

 

Tabl A

Colofn 1

Rhif CAS

Colofn 2

15. Hydrogen

1333-74-0

5

18. Nwyon fflamadwy hylifedig, Categori 1 neu 2 (gan gynnwys NPH) a nwy naturiol (gan gynnwys mwy naturiol hylifedig)

-

50

Rhaid defnyddio’r rheol hon i asesu’r peryglon i iechyd, y peryglon corfforol a’r peryglon amgylcheddol. Rhaid ei chymhwyso dair gwaith felly—

(a)     ar gyfer ychwanegu sylweddau peryglus a restrir yn Rhan 2 sy’n dod o fewn categori gwenwyndra acíwt 1, 2 neu 3 (llwybr anadlu) neu GPOD AU categori 1, ynghyd â sylweddau peryglus sy’n dod o fewn adran H, cofnodion H1 i H3 o Ran 1;

(b)     ar gyfer ychwanegu sylweddau peryglus a restrir yn Rhan 2 sy’n ffrwydron, nwyon fflamadwy, erosolau fflamadwy, nwyon sy’n ocsidio, hylifau fflamadwy, sylweddau a chymysgeddau hunanadweithiol, perocsidau organig, hylifau a solidau pyrofforig, hylifau a solidau sy’n ocsidio, ynghyd â sylweddau peryglus sy’n dod o fewn adran P, cofnodion P1 i P8 o Ran 1;

(c)     ar gyfer ychwanegu sylweddau peryglus a restrir yn Rhan 2 sy’n dod o fewn categori acíwt 1 peryglus i’r amgylchedd dyfrol, categori cronig 1 neu gategori cronig 2, ynghyd â sylweddau peryglus sy’n dod o fewn adran E, cofnodion E1 ac E2 o Ran 1.

Mae darpariaethau perthnasol y Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo unrhyw un neu ragor o’r symiau a geir drwy (a), (b) neu (c) yn fwy nag 1 neu’n gyfwerth ag 1.

5. Yn achos sylweddau peryglus nad yw’r Rheoliad DLPh yn eu cwmpasu, gan gynnwys gwastraff, ond sydd er hynny yn bresennol neu’n debygol o fod yn bresennol mewn sefydliad ac sy’n meddu ar neu’n debygol o feddu ar nodweddion cyfwerth o ran y potensial am ddamwain fawr, o dan yr amodau a geir yn y sefydliad, rhaid eu neilltuo dros dro i’r categori mwyaf cydweddol neu’r sylwedd peryglus a enwyd mwyaf cydweddol sy’n dod o fewn cwmpas y Rheoliadau hyn. 

6. Yn achos sylweddau peryglus sydd â nodweddion sy’n arwain at fwy nag un dosbarthiad, at ddibenion y Rheoliadau hyn mae’r maintioli isaf sydd dan reolaeth yn gymwys.  Fodd bynnag, ar gyfer cymhwyso’r rheol yn Nodyn 4, rhaid defnyddio’r maintioli isaf sydd dan reolaeth ar gyfer pob grŵp o gategorïau yn Nodiadau 4(a), 4(b) a 4(c) sy’n cyfateb i’r dosbarthiad dan sylw. 

7. Mae sylweddau peryglus sy’n dod o fewn Categori 3 Gwenwynig Acíwt drwy lwybr y geg (H 301) yn dod o dan gofnod H2 GWENWYNIG ACÍWT yn yr achosion hynny pan na ellir cael dosbarthiad gwenwyndra anadlu acíwt na dosbarthiad gwenwyndra croenol acíwt, er enghraifft oherwydd diffyg data pendant ynghylch gwenwyndra’r llwybr anadlu a chroenol. 

8. Mae’r dosbarth perygl Ffrwydron yn cynnwys eitemau ffrwydrol (gweler Adran 2.1 o Atodiad I i’r Rheoliad DLPh). Os yw maintioli’r sylwedd neu’r cymysgedd ffrwydrol sydd wedi ei gynnwys yn yr eitem yn wybyddus, rhaid ystyried y maintioli hwnnw at ddibenion y Rheoliadau hyn.  Os nad yw maintioli’r sylwedd neu’r cymysgedd ffrwydrol sydd wedi ei gynnwys yn yr eitem yn wybyddus, yna, at ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid trin yr eitem gyfan fel un ffrwydrol. 

9. Nid oes angen profi ar gyfer nodweddion ffrwydrol sylweddau a chymysgeddau onid yw’r weithdrefn sgrinio yn unol ag Atodiad 6, Rhan 3 o Argymhellion y Cenhedloedd Unedig ar Gludo Nwyddau Peryglus, y Llawlyfr Profion a Meini Prawf (Llawlyfr Profion a Meini Prawf y Cenhedloedd Unedig)([33]) yn nodi bod potensial bod y sylwedd neu’r cymysgedd yn meddu ar nodweddion ffrwydrol.

10. Os caiff Ffrwydron sy’n perthyn i Is-adran 1.4 eu dadbacio neu eu hailbacio, rhaid eu neilltuo i’r cofnod P1a, oni bai y dangosir bod y perygl yn dal i gyfateb i Is-adran 1.4, yn unol â’r Rheoliad DLPh.

11.(1) Caiff erosolau fflamadwy eu dosbarthu yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 75/324/EEC dyddiedig 20 Mai 1975 ar gyd-ddynesiad cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau yn ymwneud â chyflenwyr erosol([34]) (Y Gyfarwyddeb Cyflenwyr Erosol). Mae erosolau “Fflamadwy dros ben” a “Fflamadwy” o Gyfarwyddeb 75/324/EEC yn cyfateb i Erosolau Fflamadwy Categori 1 neu 2, yn y drefn honno, o’r Rheoliad DLPh.

(2) Er mwyn defnyddio’r cofnod hwn, rhaid iddi gael ei dogfennu nad yw’r cyflenwr erosol yn cynnwys Nwy Fflamadwy Categori 1 na 2 na Hylif Fflamadwy Categori 1.

12. Yn ôl paragraff 2.6.4.5 yn Atodiad I i’r Rheoliad DLPh, nid oes angen dosbarthu hylifau sydd â fflachbwynt uwchlaw 35°C yng Nghategori 3 os cafwyd canlyniadau negyddol yn y prawf hylosgedd parhaus L.2, Rhan III, adran 32 o Lawlyfr Profion a Meini Prawf y Cenhedloedd Unedig. Nid yw hyn yn ddilys, fodd bynnag, o dan amodau uwch fel tymheredd neu wasgedd uchel, ac felly mae hylifau o’r fath wedi eu cynnwys yn y cofnod hwn.

13. Amoniwm nitrad (5,000/10,000): gwrteithiau sy’n gallu dadelfennu’n hunangynhaliol

Mae hyn yn gymwys i wrteithiau cyfansawdd/cyfun seiliedig ar amoniwm nitrad (mae gwrteithiau cyfansawdd/cyfun yn cynnwys amoniwm nitrad ynghyd â ffosffad a/neu botash) sy’n gallu dadelfennu’n hunangynhaliol yn ôl Prawf Cafn y Cenhedloedd Unedig (gweler Llawlyfr Profion a Meini Prawf y Cenhedloedd Unedig, Rhan III, is-adran 38.2), ac y mae’r nitrogen a gynhwysir ynddynt o ganlyniad i’r amoniwm nitrad—

(a)     rhwng 15.75%([35]) a 24.5%([36]) yn ôl pwysau, a naill ai â dim mwy na chyfanswm o 0.4% o ddeunyddiau hylosg/organig neu sy’n cyflawni gofynion Atodiad III-2 i Reoliad (EC) Rhif 2003/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 13 Hydref 2003 yn ymwneud â gwrteithiau([37]);

(b)     yn 15.75%  neu lai yn ôl pwysau ac yn cynnwys deunyddiau hylosg digyfyngiad.

14. Amoniwm nitrad (1,250/5,000): gradd gwrtaith

Mae hyn yn gymwys i wrteithiau sengl seiliedig ar amoniwm nitrad ac i wrteithiau cyfansawdd/cyfun seiliedig ar amoniwm nitrad sy’n cyflawni gofynion Atodiad III-2 i Reoliad (EC) Rhif 2003/2003 ac y mae’r nitrogen a gynhwysir ynddynt o ganlyniad i’r amoniwm nitrad—

(a)     yn fwy na 24.5% yn ôl pwysau, ac eithrio ar gyfer cymysgeddau o wrteithiau sengl seiliedig ar amoniwm nitrad sy’n cynnwys dolomit, calchfaen a/neu galsiwm carbonad sydd â phurdeb o 90% o leiaf;

(b)     yn fwy na 15.75% yn ôl pwysau ar gyfer cymysgeddau o amoniwm nitrad ac amoniwm sylffad;

(c)     yn fwy na 28%([38]) yn ôl pwysau ar gyfer cymysgeddau o wrteithiau sengl seiliedig ar amoniwm nitrad sy’n cynnwys dolomit, calchfaen a/neu galsiwm carbonad sydd â phurdeb o 90% o leiaf.

15. Amoniwm nitrad (350/2,500): gradd dechnegol

Mae hyn yn gymwys i amoniwm nitrad a chymysgeddau o amoniwm nitrad pan fo’r nitrogen a gynhwysir ynddynt o ganlyniad i’r amoniwm nitrad—

(a)     rhwng 24.5% a 28% yn ôl pwysau, ac sy’n cynnwys dim mwy na 0.4% o sylweddau hylosg;

(b)     yn fwy na 28% yn ôl pwysau, ac sy’n cynnwys dim mwy na 0.2% o sylweddau hylosg. 

Mae hefyd yn gymwys i hydoddiannau amoniwm nitrad dyfrllyd y mae eu crynodiad o amoniwm nitrad yn fwy nag 80% yn ôl pwysau.

16. Amoniwm nitrad (10/50): deunydd nad yw’n bodloni’r fanyleb a gwrteithiau nad ydynt yn bodloni’r prawf taniad

Mae hyn yn gymwys i—

(a)     deunydd a wrthodwyd yn ystod y broses weithgynhyrchu ac i amoniwm nitrad a chymysgeddau o amoniwm nitrad, gwrteithiau sengl seiliedig ar amoniwm nitrad a gwrteithiau cyfansawdd/cyfun seiliedig ar amoniwm nitrad y cyfeirir atynt yn Nodiadau 14 a 15, sy’n cael eu dychwelyd neu sydd wedi eu dychwelyd gan y defnyddiwr terfynol i weithgynhyrchwr, i storfa dros dro neu i safle ailbrosesu ar gyfer eu hailweithio, eu hailgylchu neu eu trin ar gyfer eu defnyddio’n ddiogel, oherwydd nad ydynt mwyach yn cydymffurfio â manylebau Nodiadau 14 a 15;

(b)     gwrteithiau y cyfeirir atynt yn Nodyn 13(a), a Nodyn 14 i’r Atodlen hon nad ydynt yn cyflawni gofynion Atodiad III-2 i Reoliad (EC) Rhif 2003/2003.

17. Potasiwm nitrad (5,000/10,000)

Mae hyn yn gymwys i’r gwrteithiau cyfun hynny sy’n seiliedig ar botasiwm-nitrad (ar ffurf peledau/gronynnau) sydd â’r un nodweddion peryglus â photasiwm nitrad pur.  

18. Potasiwm nitrad (1,250/5,000)

Mae hyn yn gymwys i’r gwrteithiau cyfun hynny sy’n seiliedig ar botasiwm-nitrad (ar ffurf  grisialau) sydd â’r un nodweddion peryglus â photasiwm nitrad pur. 

19. Bio-nwy wedi ei uwchraddio

At ddibenion gweithredu’r Rheoliadau hyn, caniateir dosbarthu bio-nwy wedi ei uwchraddio o dan gofnod 18 o Ran 2 o Atodlen 1 pan fo wedi ei brosesu yn unol â safonau cymwys ar gyfer bio-nwy puredig ac uwchraddedig gan sicrhau ansawdd sy’n cyfateb i ansawdd nwy naturiol, gan gynnwys y Methan a gynhwysir ynddo, ac sydd ag uchafswm o 1% o Ocsigen.

20. Polyclorodeubensoffwranau a pholyclorodeubensodeuocsinau

Cyfrifir y maintioli o bolyclorodeubensoffwranau a pholyclorodeubensodeuocsinau gan ddefnyddio’r ffactorau yn Nhabl 1—

 

Tabl 1

Ffactorau Cyfwerthedd Gwenwyndra ar gyfer Deuocsinau a Chyfansoddion tebyg i Ddeuocsin 2005 Sefydliad Iechyd y Byd*

2,3,7,8-TCDD

1

2,3,7,8-TCDF

0.1

1,2,3,7,8-PeCDD

1

2,3,4,7,8-PeCDF

0.3

 

 

1,2,3,7,8-PeCDF

0.03

 

 

 

 

1,2,3,4,7,8-HxCDD

0.1

 

 

1,2,3,6,7,8-HxCDD

0.1

1,2,3,4,7,8-HxCDF

0.1

1,2,3,7,8,9-HxCDD

0.1

1,2,3,7,8,9-HxCDF

0.1

 

 

1,2,3,6,7,8-HxCDF

0.1

1,2,3,4,6,7,8-HpCDD

0.01

2,3,4,6,7,8-HxCDF

0.1

 

 

 

 

OCDD

0.0003

1,2,3,4,6,7,8-HpCDF

0.01

 

 

1,2,3,4,7,8,9-HpCDF

0.01

 

 

 

 

 

 

OCDF

0.0003

(T = tetra, P = penta, Hx = hecsa, Hp = hepta, O = octa)

*Cyfeiriad — Van den Berg et al: “The 2005 World Health Organisation Re-evaluation of Human and Mammalian Toxic Equivalency Factors for Dioxins and Dioxin-like Compounds”

21. Mewn achosion pan fo’r sylwedd peryglus hwn yn dod o fewn categori Hylifau fflamadwy P5a neu Hylifau fflamadwy P5b, yna at ddibenion y Rheoliadau hyn mae’r maintioli is sydd dan reolaeth yn gymwys.

22. Pan fo Rhan 1 o’r Atodlen hon yn cwmpasu sylwedd peryglus a’i fod hefyd wedi ei restru yn Rhan 2, mae’r maintioli sydd dan reolaeth a nodir yng Ngholofn 2 o Ran 2 yn gymwys.

23. Mewn perthynas â Rhan 3—

(a)     pan fo S hefyd yn dod o fewn Rhan 1 neu Ran 2, y dosbarthiad sydd â’r maintioli isaf sydd dan reolaeth sy’n gymwys; a

(b)     pan fo S hefyd yn dod o fewn Rhan 1 a Rhan 2, y maintioli sydd dan reolaeth sydd isaf wrth gymharu’r maintioli sydd dan reolaeth o dan Ran 2 a Rhan 3 sy’n gymwys.

24. Mae i ymadroddion sy’n ymddangos yn yr Atodlen hon ac yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr at ddibenion yr Atodlen hon ag a roddir iddynt at ddibenion y Gyfarwyddeb.                                                                    


ATODLEN 2   Rheoliad 4

ESEMPTIADAU

Llwytho, dadlwytho a storio dros dro

1. Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb dros dro sylwedd peryglus ar, uwchben neu oddi tan dir pan fo’r presenoldeb hwnnw yn ymwneud yn uniongyrchol â chludo sylweddau peryglus ar y ffordd, ar drên, ar ddyfrffyrdd mewnol, ar y môr neu yn yr awyr, y tu allan i sefydliadau sy’n dod o fewn cwmpas y Rheoliadau hyn, gan gynnwys llwytho a dadlwytho a chludo rhwng un cyfrwng cludo i’r llall mewn dociau, ceioedd neu ierdydd trefnu.

Piblinellau

2. Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus sy’n cael ei gludo mewn piblinell, gan gynnwys gorsaf bwmpio, y tu allan i unrhyw dir—

(a)     y mae cydsyniad sylweddau peryglus ar gyfer unrhyw sylwedd yn bodoli mewn cysylltiad ag ef;

(b)     (heb ystyried maintioli’r sylwedd yn y biblinell neu’r orsaf bwmpio) y mae cydsyniad o’r fath yn ofynnol ar gyfer unrhyw sylwedd mewn cysylltiad â’r tir hwnnw.

Dadlwytho oddi ar longau mewn argyfwng

3. Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus sydd wedi ei ddadlwytho oddi ar long neu fad môr arall mewn argyfwng hyd nes bod y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd ei ddadlwytho yn dod i ben.

4. At ddiben paragraff 3, mae sylwedd i’w drin fel petai wedi ei ddadlwytho oddi ar fad mewn argyfwng—

(a)     os cafodd ei ddadlwytho oddi ar fad yr oedd cyfarwyddyd o dan adran 3(1) o Ddeddf Llestrau Peryglus 1985([39]) (cyfarwyddiadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol i harbwrfeistr) yn gymwys iddo; neu

(b)     os cafodd ei ddadlwytho oddi ar fad ar ôl iddo ddod i mewn i harbwr neu ardal harbwr, o fewn ystyr “harbour” neu “harbour area” yn rheoliad 2 o Reoliadau Sylweddau Peryglus mewn Ardaloedd Harbwr 1987([40]), heb fod hysbysiad yn ofynnol o dan baragraff (1) o reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny yn rhinwedd esemptiad o dan baragraff (5) o’r rheoliad hwnnw.

Safleoedd tirlenwi

5. Yn ddarostyngedig i baragraff 7, nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus ar, uwchben neu oddi tan dir safle tirlenwi gwastraff, gan gynnwys safle storio gwastraff tanddaearol.

6. Nid yw paragraff 5 yn gymwys i—

(a)     safle a ddefnyddir ar gyfer storio mercwri metelaidd yn unol ag Erthygl 3(1)(b) o Reoliad (EC) Rhif 1102/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wahardd allforio mercwri metelaidd a chyfansoddion a chymysgeddau penodol mercwri a storio mercwri metelaidd yn ddiogel([41]);

(b)     storfeydd nwy tanddaearol yn y tir mewn strata naturiol, dyfrhaenau, ceudodau halen a mwyngloddiau segur;

(c)     gweithrediadau prosesu cemegol a thermol a storfeydd sy’n ymwneud â’r gweithrediadau hynny; neu

(d)     cyfleusterau gwaredu sorod gweithredol, gan gynnwys pyllau neu argaeau sorod, sy’n cynnwys sylwedd peryglus.

Safleoedd niwclear

7. Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus sy’n creu perygl o ymbelydredd ïoneiddio os yw’n bresennol ar, uwchben neu oddi tan dir y mae trwydded safle niwclear wedi ei rhoi neu’n ofynnol at ddibenion adran 1 o Ddeddf Safleoedd Niwclear 1965([42]) mewn cysylltiad ag ef.

Mwynau

8. Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus at ddibenion elwa ar fwynau mewn mwyngloddiau a chwareli, sef chwilio amdanynt, eu hechdynnu a’u prosesu, gan gynnwys drwy gyfrwng tyllau turio, ac eithrio pan fônt yn bresennol mewn cysylltiad â’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff 6(b) i (d) o’r Atodlen hon.

9. Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus at ddibenion—

(a)     chwilio am fwynau yn y môr ac elwa arnynt, gan gynnwys hydrocarbonau; neu

(b)     storio nwy mewn safleoedd tanddaearol yn y môr gan gynnwys safleoedd storio dynodedig a safleoedd lle y bydd chwilio ac elwa ar fwynau, gan gynnwys hydrocarbonau.

Ffrwydron

10. Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb ffrwydryn o fewn ystyr “explosive” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Ffrwydron 2014([43])—

(a)     y mae trwydded yn ofynnol ar ei gyfer ac wedi ei rhoi ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hynny gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch os yr Awdurdod hwnnw yw’r awdurdod trwyddedu yn rhinwedd—

                           (i)    paragraff 1(b) o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hynny mewn achosion pan oedd cydsyniad awdurdod lleol yn ofynnol yn unol â rheoliad 13(3) o’r Rheoliadau hynny neu pan fyddai wedi bod yn ofynnol oni bai am reoliad 13(4)(b), (c), (d), (e), (f) neu (g) o’r Rheoliadau hynny, neu

                         (ii)    paragraff 1(d) o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hynny; neu

(b)     y mae trwydded yn ofynnol ar ei gyfer ac wedi ei rhoi ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hynny gan y Swyddfa dros Reoli Niwclear mewn achosion pan oedd cydsyniad awdurdod lleol yn ofynnol yn unol â rheoliad 13(3) o’r Rheoliadau hynny neu pan fyddai wedi bod yn ofynnol oni bai am reoliad 13(4)(b), (c), (d), (e), (f) neu (g) o’r Rheoliadau hynny.

11. Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol pan fo trwydded ar gyfer ffrwydryn o fewn ystyr “explosive” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Sylweddau Peryglus mewn Ardaloedd Harbwr 1987([44]) wedi ei dyroddi.

Presenoldeb sylweddau sefydledig

12. Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol mewn perthynas â sylwedd peryglus sydd ar, uwchben neu oddi tan unrhyw dir (“y sylwedd perthnasol”)—

(a)     os oedd y sylwedd perthnasol yn bresennol ar, uwchben neu oddi tan y tir ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod sefydlu;

(b)     os nad oedd cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb y sylwedd perthnasol ar yr adeg yr oedd yn bresennol yn ystod y cyfnod sefydlu; ac

(c)     pe byddai cydsyniad sylweddau peryglus wedi bod yn ofynnol ar gyfer presenoldeb y sylwedd perthnasol petai’r Rheoliadau hyn wedi bod mewn grym ar yr adeg honno.

13. Nid yw paragraff 12 yn gymwys pan fo maintioli’r sylwedd perthnasol yn fwy nag uchafswm maintioli’r sylwedd perthnasol a oedd yn bresennol ar, uwchben neu oddi tan y tir ar unrhyw un adeg yn ystod y cyfnod sefydlu.

Presenoldeb sylweddau sydd wedi eu hesemptio

14. Nid yw presenoldeb sylwedd y mae esemptiad wedi ei ddarparu ar ei gyfer o dan baragraffau 1 i 13 i’w ystyried wrth gyfrifo maintioli’r sylwedd peryglus sy’n bresennol ar, uwchben neu oddi tan dir at unrhyw ddiben o’r DCSP neu’r Rheoliadau hyn.

Presenoldeb maintioli bach o sylweddau

15. Nid yw presenoldeb maintioli o sylwedd peryglus—

(a)     mewn lleoliad lle nad yw’n gallu achosi damwain fawr mewn man arall ar y safle perthnasol, a

(b)     sy’n gyfwerth â dau y cant neu lai o’r maintioli perthnasol sydd dan reolaeth ar gyfer y sylwedd hwnnw,

i’w ystyried wrth gyfrifo maintioli’r sylwedd peryglus sy’n bresennol ar, uwchben neu oddi tan dir at unrhyw ddiben o’r DCSP neu’r Rheoliadau hyn.

Mân newidiadau i fathau a maintioli o sylweddau

16. Pan fo’r amodau ym mharagraff 17 wedi eu bodloni, nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer mân newid perthnasol.

17. Yr amodau yw—

(a)     cyn bod y mân newid perthnasol yn digwydd, bod yr awdurdod sylweddau peryglus yn cael oddi wrth yr awdurdod COMAH cymwys hysbysiad ysgrifenedig y mae’n rhaid i’r awdurdod COMAH cymwys wneud copi ohono ar gyfer y person sy’n rheoli’r tir y mae’r cydsyniad sylweddau peryglus dan sylw yn ymwneud ag ef, yn cadarnhau—

                           (i)    manylion y mân newid perthnasol, gan gynnwys manylion am sut i gadw a defnyddio sylweddau;

                         (ii)    na fydd y mân newid perthnasol yn arwain at newid o ran perygl diogelwch; a

                       (iii)    na fydd y mân newid perthnasol yn arwain at sefydliad haen is yn dod yn sefydliad haen uwch neu i’r gwrthwyneb; a

(b)     bod unrhyw sylweddau peryglus a gedwir heb gydsyniad sylweddau peryglus gan ddibynnu ar yr esemptiad hwn yn cael eu cadw a’u defnyddio yn unol â’r manylion a nodir yn yr hysbysiad oddi wrth yr awdurdod COMAH cymwys.

Dehongli’r Atodlen hon

18. Yn yr Atodlen hon—

ystyr “cyfnod sefydlu” (“establishment period”) yw’r cyfnod o 12 wythnos sy’n dod i ben ar—

(a)     4 Medi 2015; neu

(b)     (os yw’n hwyrach) y dyddiad yr oedd y cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol yn gyntaf ar gyfer y sylwedd perthnasol;

ystyr “mân newid perthnasol” (“relevant minor change”) yw newid i’r maintioli neu’r math o sylweddau peryglus sy’n bresennol mewn, ar neu oddi tan dir y mae cydsyniad sylweddau peryglus yn bodoli mewn perthynas ag ef, pan fyddai cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer y newid hwnnw oni bai am yr Atodlen hon;

ystyr “newid o ran perygl diogelwch” (“safety hazard change”) yw newid i ardal y mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu’r Swyddfa dros Reoli Niwclear wedi hysbysu awdurdod cynllunio lleol amdano at ddibenion paragraffau (c) neu (ca) o’r Tabl yn Atodlen 4 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012([45]) pan fo’r newid hwnnw yn arwain at—

(a)     yr ardal honno yn cwmpasu tir nad oedd yn ei gwmpasu yn flaenorol; neu

(b)     pan fo’r hysbysiad am yr ardal honno wedi nodi parthau o fewn yr ardal honno sy’n cyfateb i lefelau risg, ehangu unrhyw barth o’r fath.

19. Mae i ymadroddion sy’n ymddangos yn yr Atodlen hon ac yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr at ddibenion yr Atodlen hon ag a roddir iddynt at ddibenion y Gyfarwyddeb.


 

                                 ATODLEN 3                      Rheoliadau 6(4), 7, 13(4) a 13(5)

FFURFLENNI, HYSBYSIADAU A THYSTYSGRIFAU RHAGNODEDIG

 

 

Ffurflen 1

 

Gosod Tystysgrif Hysbysiad o Gais

 

Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990

 

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015 (Rheoliad 6)

Tystysgrif A

Yr wyf yn ardystio:

Fy mod/Bod y ceisydd* wedi gosod yr hysbysiad sy’n ofynnol gan reoliad 6(1)(b) o’r Rheoliadau uchod ar y tir y mae’r cais cysylltiedig yn ymwneud ag ef.

Y cafodd yr hysbysiad ei adael yn ei le am ddim llai na 7 niwrnod yn ystod y cyfnod o 21 o ddiwrnodau cyn y cais.

neu

Tystysgrif B

Yr wyf yn ardystio:

Nad wyf/Nad yw’r ceisydd* wedi gallu gosod yr hysbysiad sy’n ofynnol gan reoliad 6(1)(b) o’r Rheoliadau uchod ar y tir y mae’r cais cysylltiedig yn ymwneud ag ef am nad oes gennyf/gan y ceisydd* unrhyw hawl mynediad na hawliau eraill mewn cysylltiad â’r tir a fyddai’n fy ngalluogi/galluogi’r ceisydd* i wneud hynny.

Fy mod/Bod y ceisydd* wedi cymryd y camau a ganlyn i gaffael yr hawliau hynny, ond nad wyf/yw* wedi bod yn llwyddiannus.

(Rhowch ddisgrifiad o’r camau a gymerwyd) .............................

......................................................................................................

neu

Tystysgrif C

Yr wyf yn ardystio:

Fy mod/Bod y ceisydd* wedi gosod yr hysbysiad sy’n ofynnol gan reoliad 6(1)(b) o’r Rheoliadau uchod ar y tir y mae’r cais cysylltiedig yn ymwneud ag ef.

Y cafodd yr hysbysiad ei adael yn ei le, fodd bynnag, am lai na 7 niwrnod yn ystod y cyfnod o 21 o ddiwrnodau cyn y cais.

Y digwyddodd hynny am iddo gael ei symud ymaith/ei guddio/ei ddifwyno* cyn i 7 niwrnod fynd heibio.

Nad oedd bai arnaf/ar y ceisydd* am hyn ac nad dyma oedd fy mwriad/bwriad y ceisydd*.

Y cymerais/Y cymerodd y ceisydd* y camau a ganlyn i warchod yr hysbysiad a rhoi hysbysiad yn ei le:

(Rhowch ddisgrifiad o’r camau a gymerwyd) .................................

Llofnodwyd........................................

*Ar ran.............................

Dyddiad............................................. 

* dileer os yw’n amhriodol

 


Ffurflen 2

Tystysgrifau o dan Reoliad 7(1)* neu 13(4)*(a)

 

Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990

 

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015

Tystysgrif A

Yr wyf yn ardystio:

nad oedd unrhyw un ac eithrio’r ceisydd/apelydd*, ar ddechrau’r cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dod i ben gyda dyddiad y cais cysylltiedig/apêl gysylltiedig*, yn berchennog (b) ar unrhyw ran o’r tir y mae’r cais/apêl* yn ymwneud ag ef.

Llofnodwyd........................................

*ar ran..............................

Dyddiad............................................

Tystysgrif B

Yr wyf yn ardystio:

Fy mod/Bod y ceisydd/Bod yr apelydd* wedi rhoi’r hysbysiad gofynnol (c) i bawb arall a oedd, ar ddechrau’r cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dod i ben gyda dyddiad y cais cysylltiedig /apêl gysylltiedig, yn berchennog (b) ar unrhyw ran o’r tir y mae’r cais/apêl* yn ymwneud ag ef, fel y’u rhestrir isod.

Enw’r perchennog ....................................

Y cyfeiriad y cyflwynwyd hysbysiad ynddo ............................................

Dyddiad cyflwyno’r hysbysiad .......................................

Llofnodwyd....................................

*ar ran..............................

Dyddiad.....................................

Tystysgrif C

Yr wyf yn ardystio:

Na allaf/Na all y ceisydd/Na all yr apelydd* roi Tystysgrif A neu B mewn cysylltiad â’r cais cysylltiedig/apêl gysylltiedig*.

Fy mod/Bod y ceisydd/Bod yr apelydd* wedi rhoi’r hysbysiad gofynnol (c) i’r personau a bennir isod, sef personau a oedd, ar ddechrau’r cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dod i ben gyda dyddiad y cais/yr apêl*, yn berchenogion (b) ar unrhyw ran o’r tir y mae’r cais/apêl* yn ymwneud ag ef.

Enw’r perchennog ................................................

Y cyfeiriad y cyflwynwyd hysbysiad ynddo ................................................

Dyddiad cyflwyno’r hysbysiad ..............................................

Fy mod/Bod y ceisydd/Bod yr apelydd* wedi cymryd pob cam rhesymol oedd ar gael i mi/i’r ceisydd/i’r apelydd* i ddarganfod enwau a chyfeiriadau gweddill perchenogion (b) y tir, neu ran ohono, ond nid wyf/yw* wedi gallu gwneud hynny. Dyma’r camau a gymerwyd:—

 

(d) ....................................................................................................................

............................................................................................................................

Llofnodwyd.........................................

*ar ran..............................

Dyddiad.............................................

 

 Tystysgrif D

Yr wyf yn ardystio:

Na allaf/Na all y ceisydd/Na all yr apelydd* roi Tystysgrif A mewn cysylltiad â’r cais cysylltiedig/apêl gysylltiedig*.

Fy mod/Bod y ceisydd/Bod yr apelydd* wedi cymryd pob cam rhesymol oedd ar gael i mi/i’r ceisydd/i’r apelydd* i ddarganfod enwau a chyfeiriadau pawb arall a oedd, ar ddechrau’r cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dod i ben gyda dyddiad y cais/yr apêl, yn berchennog (b) ar unrhyw ran o’r tir y mae’r cais/apêl* yn ymwneud ag ef, ond nid wyf/yw* wedi gallu gwneud hynny. Dyma’r camau a gymerwyd:—

(d) ....................................................................................................................

............................................................................................................................

Llofnodwyd.........................................

*ar ran..............................

Dyddiad.............................................

* dileer os yw’n amhriodol

_____________________________________________________________________________

 (a) Dylid defnyddio’r Tystysgrifau hyn ar gyfer ceisiadau ac apelau am gydsyniad sylweddau peryglus. Dylid, felly, ddileu cyfeiriadau at naill ai reoliad 7(1) neu 13(4), fel y bo’n briodol. Rhaid llenwi un o blith tystysgrifau A, B, C neu D.

(b) Ystyr “perchennog” yw person sydd â buddiant rhydd-ddaliadol neu denantiaeth sydd â chyfnod sy’n weddill o ddim llai na 7 mlynedd.

(c) Ffurflen 3 (ar gyfer ceisiadau) neu Ffurflen 4 (ar gyfer apelau).

(d) Mewnosoder disgrifiad o’r camau a gymerwyd.

 


 

Ffurflen 3

 

Hysbysiad o Gais am Gydsyniad Sylweddau Peryglus/Parhad Cydsyniad Sylweddau Peryglus*

Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990

 

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015 (Rheoliad 7)

I’w gyflwyno i berchennog(a)  

Yr wyf yn hysbysu bod (b)................................................................

yn gwneud cais i (c)...................................................................

am gydsyniad sylweddau peryglus/am barhad cydsyniad sylweddau peryglus* (d)......................................................................................................

yn (e).................................................................................................

Mae’r manylion am sut y gallwch edrych ar gopi o’r cais a chyflwyno sylwadau i (c)..................................................... wedi eu nodi yn yr hysbysiad cyhoeddus sydd ynghlwm. 

Llofnodwyd: ..................................

*ar ran.............................

Dyddiad....................................

* dileer os yw’n amhriodol

 _________________________________________________________________________________

(a) Ystyr “perchennog” yw person sydd â buddiant rhydd-ddaliadol neu denantiaeth sydd â chyfnod sy’n weddill o ddim llai na 7 mlynedd.

(b) Mewnosoder enw’r ceisydd.

(c) Mewnosoder enw’r Cyngor neu’r corff arall y gwneir cais iddo.

(d) Mewnosoder manylion cryno’r cydsyniad y gwneir cais amdano.

(e) Mewnosoder cyfeiriad neu leoliad y safle y gwneir cais yn ei gylch.


 

 

 

Ffurflen 4

 

Hysbysiad o Apêl

Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990

 

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015 (Rheoliad 13)

I’w gyflwyno i berchennog (a)

Yr wyf yn hysbysu bod (b)...................................................................................................

ar ôl gwneud cais i (c).......................................................................... am gydsyniad sylweddau peryglus/am barhad cydsyniad sylweddau peryglus*

ar gyfer (d).......

yn (e).............................................................................

yn apelio i Weinidogion Cymru  yn erbyn penderfyniad (b)...................................................................

—ynghylch methiant (b).............................i roi hysbysiad o benderfyniad*

Os ydych yn dymuno gwneud sylwadau am yr apêl hon dylech ysgrifennu at yr Arolygiaeth Gynllunio, Adeiladau’r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF14 0NS o fewn 21 o ddiwrnodau i ddyddiad cyflwyno’r hysbysiad hwn.

Llofnodwyd: ..................................

*ar ran.............................

Dyddiad....................................

* dileer os yw’n amhriodol

________________________________________________________________________________

(a) Ystyr “perchennog” yw person sydd â buddiant rhydd-ddaliadol neu denantiaeth sydd â chyfnod sy’n weddill o ddim llai na 7 mlynedd.

(b) Mewnosoder enw’r apelydd.

(c) Mewnosoder enw’r Cyngor neu’r corff arall y gwnaed y cais iddo.

(d) Mewnosoder disgrifiad o’r cynigion.

(e) Mewnosoder cyfeiriad neu leoliad y safle y gwneir cais yn ei gylch.

 


                    ATODLEN 4                   
Rheoliadau 16, 18 ac 20(1)

GORFODI – ADDASIADAU PENODEDIG O’R DCGTh

RHAN 1

Apelau yn erbyn hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus

1. Yn adrannau 174, 175, 176 a 177 o’r DCGTh fel y’u cymhwysir gan reoliad 16—

(a)     mae pob cyfeiriad at hysbysiad gorfodi i’w ddarllen fel petai’n gyfeiriad at hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus; a

(b)     mae pob cyfeiriad at awdurdod cynllunio lleol i’w ddarllen fel petai’n gyfeiriad at awdurdod sylweddau peryglus.

2. Mae adran 174 o’r DCGTh (apelau yn erbyn hysbysiad gorfodi), wrth ei chymhwyso mewn perthynas â hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, i’w darllen—

(a)     fel petai is-adran (2) yn darllen fel a ganlyn—

(2) An appeal may be brought on any of the following grounds—

(a)   that, in respect of any contravention of hazardous substances control specified in the notice, hazardous substances consent ought to be granted for the quantity of the hazardous substance present on, over or under the land or, as the case may be, the condition concerned ought to be discharged;

(b)  that the matters alleged to constitute a contravention of hazardous substances control have not occurred;

(c)   that those matters (if they occurred) do not constitute a contravention of hazardous substances control;

(d)  that copies of the hazardous substances contravention notice were not served as required by or under section 24(4) of the Planning (Hazardous Substances) Act 1990;

(e)   that the steps required by the notice to be taken exceed what is necessary to remedy any contravention of hazardous substances control;

(f)   that any period specified in the notice in accordance with section 24(5)(b) of that Act falls short of what should reasonably be allowed.;

(b)     fel petai is-adran (4) yn darllen fel a ganlyn—

(4) A notice under subsection (3) must be accompanied by a copy of the hazardous substances contravention notice, together with a statement—-

(a)   specifying the grounds on which the appeal is being made against the hazardous substances contravention notice; and

(b)  setting out the appellant’s submissions in relation to each ground of appeal.;

(c)     fel petai yn is-adran (5)—

                           (i)    y geiriau “in that statement” wedi eu mewnosod yn union ar ôl “does not”;

                         (ii)    y geiriau “in that statement” wedi eu mewnosod yn union ar ôl “failed”; a

                       (iii)    y geiriau “within the prescribed time” ac “within that time” wedi eu hepgor.

3. Mae adran 175 o’r DCGTh (apelau: darpariaethau atodol), wrth ei chymhwyso mewn perthynas â hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, i’w darllen fel petai, yn is-adran (6), y geiriau “section 25(1) of the Planning (Hazardous Substances) Act 1990” wedi eu rhoi yn lle “any other provisions of this Act”.

4. Mae adran 176 o’r DCGTh (darpariaethau cyffredinol sy’n ymwneud â phenderfynu apelau), wrth ei chymhwyso mewn perthynas â hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, i’w darllen yn is-adran (3)—

                           (i)    fel petai’r geiriau ym mharagraff (a) “within the prescribed time” wedi eu hepgor; a

                         (ii)    fel petai paragraff (b) yn darllen fel a ganlyn—

(b) may allow an appeal and quash the hazardous substances contravention notice if the hazardous substances authority fail to comply with regulation 17(2) of the Planning (Hazardous Substances) (Wales) Regulations 2015. 

5. Mae adran 177 o’r DCGTh (rhoi neu addasu caniatâd cynllunio yn dilyn apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi), wrth ei chymhwyso mewn perthynas â hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, i’w darllen—

(a)     fel pe rhoddid yn lle paragraffau (a) a (b)—

(a) grant hazardous substances consent for the presence of the hazardous substance on, over or under the land or on, over or under part of that land to which the hazardous substances contravention notice relates;

(b)  discharge any condition subject to which hazardous substances consent was granted.;

(b)     fel petai is-adrannau (1A) i (1C) wedi eu hepgor;

(c)     yn is-adran (2)—

                           (i)    fel petai’r geiriau “hazardous substances consent” wedi eu rhoi yn lle “planning permission”; a

                         (ii)    fel petai’r geiriau “to any considerations which a hazardous substances authority would have to have regard to under section 9(2) of the Planning (Hazardous Substances) Act 1990 when dealing with an application for hazardous substances consent.” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau ar ôl “regard”; 

(d)     yn is-adran (3)—

                           (i)    fel petai’r geiriau “hazardous substances consent” wedi eu rhoi yn lle “planning permission” yn y ddau le y mae’n digwydd; a

                         (ii)    fel petai’r cyfeiriad at “Part III” yn gyfeiriad at “the Planning (Hazardous Substances) Act 1990”;

(e)     fel petai’r ddau gyfeiriad at “or limitation” yn is-adran (4) wedi eu hepgor;

(f)      yn is-adran (5)—

                           (i)    fel petai paragraff (b) wedi ei hepgor; a

                         (ii)    fel petai’r geiriau “hazardous substances consent in respect of the matters specified in the hazardous substances contravention notice as constituting a contravention of hazardous substances control.” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau o “planning permission” hyd y diwedd;

(g)     fel petai, yn is-adran (5A) y geiriau “section 26A of the Planning (Hazardous Substances) Act 1990” wedi eu rhoi yn lle “section 303”;

(h)     fel petai, yn is-adrannau (6) a (7), y geiriau “hazardous substances consent” wedi eu rhoi yn lle “planning permission”; ac

(i)      yn is-adran (8)—

                           (i)    fel petai’r geiriau “section 28 of the Planning (Hazardous Substances) Act 1990” wedi eu rhoi yn lle “section 69”; a

                         (ii)    fel petai’r geiriau “hazardous substances consent” wedi eu rhoi yn lle “planning permission”.

RHAN 2

Effaith hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, etc.

6. Yn adrannau 178, 179, 180 a 181 o DCGTh, fel y’u cymhwysir gan reoliad 18—

(a)     mae pob cyfeiriad at hysbysiad gorfodi i’w ddarllen fel petai’n gyfeiriad at hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus; a

(b)     mae pob cyfeiriad at awdurdod cynllunio lleol i’w ddarllen fel petai’n gyfeiriad at awdurdod sylweddau peryglus.

7. Mae adran 178 o’r DCGTh (gweithredu a chostau gwaith sy’n ofynnol gan hysbysiadau gorfodi) fel y mae’n cael effaith mewn perthynas â hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, i’w ddarllen—

(a)     fel petai yn is-adran (2), yn y ddau le y mae’r geiriau “breach of planning control” yn digwydd, yn darllen “contravention of hazardous substances control”;

(b)     fel petai is-adrannau (3) i (5) wedi eu hepgor; ac

(c)     fel petai’r is-adran a ganlyn wedi ei mewnosod ar ôl is-adran (6)—

(7) Where different periods are specified for different steps in a hazardous substances contravention notice by virtue of section 24(5)(b) of the PHSA, references in this section and in section 179 to the period for compliance with a hazardous substances contravention notice, in relation to a step, are to the period by the end of which the step is required to have been taken. 

8. Mae adran 179 (trosedd pan na chydymffurfir â hysbysiad gorfodi), fel y mae’n cael effaith mewn perthynas â hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus i’w darllen—

(a)     fel petai is-adran (1) yn darllen fel a ganlyn—

(1) Where, at any time after the end of the period for compliance with a hazardous substances contravention notice, any steps required by the notice to be taken before the end of that period have not been taken, any person other than the owner who is in control of the land and the owner of the land at the time is in breach of the notice.”;

(b)     fel petai’r geiriau  “the owner of the land” yn is-adran (2) yn darllen “a person”;

(c)     fel petai is-adrannau (4) a (5) wedi eu hepgor;

(d)     fel petai’r geiriau “or (5)” yn is-adran (6) wedi eu hepgor;

(e)     fel petai’r geiriau “section 188” yn is-adran (7)(b) yn darllen “regulation 19 of the Planning (Hazardous Substances) (Wales) Regulations 2015”.

9. Mae adran 180 (effaith caniatâd cynllunio etc. ar hysbysiad gorfodi neu hysbysiad torri amod) fel y mae’n cael effaith mewn perthynas â hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, i’w darllen—

(a)     fel petai is-adran (1) yn darllen fel a ganlyn—

(1) Where, after the service of a copy of a hazardous substances contravention notice, hazardous substances consent is granted for the presence of a hazardous substance on, over or under the land to which the notice relates or any part of that land, the notice ceases to have effect so far as inconsistent with that consent.;

(b)     fel petai is-adran (2) wedi ei hepgor; ac

(c)     fel petai’r geiriau “or breach of condition notice” yn is-adran (3) wedi eu hepgor”.

10. Mae adran 181 (hysbysiad gorfodi i gael effaith yn erbyn datblygiad dilynol) fel y mae’n cael effaith mewn perthynas â hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, i’w darllen fel pe rhoddid y geiriau canlynol yn lle is-adrannau (1) i (5) o’r adran honno—

(1) Compliance with a hazardous substances contravention notice does not discharge that notice.

(2) Without prejudice to subsection (1), where a provision of a hazardous substances contravention notice requires a hazardous substance to be removed from the land to which the notice relates, the presence on, over or under that land of a quantity of that substance equal to or exceeding its controlled quantity at any time after the substance has been removed in compliance with the hazardous substances contravention notice is in contravention of that notice.

(3) Without prejudice to subsection (1), where a provision of a hazardous substances contravention notice requires the quantity of a hazardous substance on, over or under the land to which the notice relates to be reduced below a specified quantity (being greater than the controlled quantity), the presence on, over or under that land of a quantity of that substance equal to or in excess of the specified quantity at any time after the quantity of that substance has been reduced below the specified quantity in compliance with the hazardous substances contravention notice, is in contravention of that notice.

(4) Without prejudice to subsection (1), where a provision of a hazardous substances contravention notice requires steps to be taken to remedy a failure to comply with a condition subject to which a hazardous substances consent was granted, after those steps have been taken no further steps may  be taken which would constitute a breach of that condition, and the taking of such further steps is in contravention of that notice.

(5) Sections 178 and 179 apply to the contravention of a hazardous substances contravention notice to which this section applies as if the period for compliance with the notice had expired on the date the contravention took place, but the hazardous substances authority must not enter the land under section 178(1) without, at least 28 days before their entry, serving on the owner or occupier of the land a notice of their intention to do so.”

RHAN 3

Dilysrwydd

11.(1) Mae adran 285 o’r DCGTh (dilysrwydd hysbysiadau gorfodi a hysbysiadau tebyg), fel y’i cymhwysir gan reoliad 20(1), i’w darllen—

(a)     fel petai pob cyfeiriad at hysbysiad gorfodi yn gyfeiriad at hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus; a

(b)     fel petai is-adrannau (3) a (4) wedi eu hepgor.

(2) Mae adran 289 o’r DCGTh (apelau i’r Uchel Lys sy’n ymwneud â hysbysiadau gorfodi etc.), fel y’i cymhwysir gan reoliad 20(1), i’w darllen—

(a)     fel petai pob cyfeiriad at hysbysiad gorfodi yn gyfeiriad at hysbysiad tramgwydd sylwedd peryglus; a

(b)     fel petai pob cyfeiriad at awdurdod cynllunio lleol yn is-adrannau (1) a (4A) yn gyfeiriad at awdurdod sylweddau peryglus.

                    ATODLEN 5       Rheoliad 35

DIWYGIADAU I DDEDDFWRIAETH

Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005

1.(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005([46]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 13 (cynllun datblygu lleol: materion ychwanegol y dylid rhoi sylw iddynt)—

(a)     yn lle paragraff (1)(c) rhodder—

(c) amcanion atal damweiniau mawr a chyfyngu ar ganlyniadau damweiniau o’r fath ar iechyd dynol a’r amgylchedd drwy fynd ar drywydd yr amcanion hynny drwy’r rheolaethau a ddisgrifir yn Erthygl 13 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU;;

(b)     yn lle paragraff (ch) rhodder—

(ch)  yr angen, yn y tymor hir—

                       (i)  i gadw pellteroedd diogelwch priodol rhwng sefydliadau ac ardaloedd preswyl, adeiladau ac ardaloedd a ddefnyddir gan y cyhoedd, ardaloedd hamdden, a, chyn belled â phosibl, lwybrau trafnidiaeth pwysig;

                      (ii)  i warchod ardaloedd o sensitifrwydd naturiol penodol neu o ddiddordeb penodol yng nghyffiniau’r sefydliadau, pan fo hynny’n briodol drwy bellteroedd diogelwch priodol neu fesurau perthnasol eraill;

                     (iii)  yn achos sefydliadau sy’n bodoli eisoes, i gymryd mesurau technegol ychwanegol yn unol ag Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU er mwyn peidio â chynyddu’r risgiau i iechyd dynol a’r amgylchedd.”;

(c)     ym mharagraff (2), yn lle “yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 96/82/EC (fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2003/105/EC)” rhodder “yng Nghyfarwyddeb 2012/18/EU”.

Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

2.(1) Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012([47]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn y Tabl yn Atodlen 4 (ymgyngoriadau cyn rhoi caniatâd cynllunio), ym mharagraff (s)—

(a)     yn lle’r geiriau yn yr ail golofn (disgrifiad o’r datblygiad) rhodder—

“Datblygiad—

                       (i)  sy’n cynnwys lleoli sefydliadau newydd;

                      (ii)  sy’n cynnwys addasiadau i sefydliadau presennol y mae Erthygl 11 o Gyfarwyddeb  2012/18/EU yn eu cwmpasu; neu

                     (iii)  sy’n newydd, gan gynnwys llwybrau trafnidiaeth, lleoliadau a ddefnyddir gan y cyhoedd ac ardaloedd preswyl yng nghyffiniau sefydliadau presennol, lle gallai’r lleoliad neu’r datblygiad fod yn ffynhonnell y risg o ddamwain fawr, neu gynyddu’r risg neu ganlyniadau damwain fawr.;

(b)     yn lle’r geiriau yn y drydedd golofn (ymgynghorai) rhodder—

“Awdurdod COMAH cymwys, ac mewn perthynas â datblygiad sy’n dod o fewn paragraff (iii), unrhyw berson sydd, yn ôl y gofrestr a gedwir gan yr awdurdod sylweddau peryglus o dan reoliad 22 o Reoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015, y person sy’n rheoli’r tir y mae unrhyw sefydliad presennol dan sylw wedi ei leoli arno”;

(c)     yn Atodlen 4 yn y paragraff sy’n delio â Dehongli’r Tabl, yn lle paragraff (ng) rhodder—

(ng) ym mharagraff (s)—

                       (i)  mae i’r ymadroddion a ddefnyddir yn y paragraff hwnnw ac yng Nghyfarwyddeb 2012/18/EU yr un ystyr ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb honno; a

                      (ii)  ystyr “awdurdod COMAH cymwys” (“COMAH competent authority”) yw—

(aa)    mewn perthynas â safle niwclear perthnasol, y Swyddfa dros Reoli Niwclear a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd;

(bb)    fel arall, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd.

 



([1])           1972 p. 68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7), a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.

([2])           O.S. 2015/814.

([3])           1990 p. 10. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hynny, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, ac yr oedd y swyddogaethau hynny yn swyddogaethau perthnasol y Cynulliad fel y’u diffinnir ym mharagraff 30(2). Gweler adran 39(2) i gael ystyr “prescribed”. Diwygiwyd adran 4 gan O.S. 1999/981 y mae diwygiadau eraill iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Diwygiwyd adran 7(1) gan adran 144 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p. 43) (“DDA 1990”) a pharagraff 3 o Ran 1 o Atodlen 13 iddi, mewnosodwyd adran 21(3A) gan adran 197 o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29) (“Deddf 2008”) a pharagraff 6 o Atodlen 11 iddi, mewnosodwyd adran 21B gan reoliad 2(3) o O.S. 2014/2773 (Cy.  280), diwygiwyd adran 25 gan adran 144 o DDA 1990 a pharagraff 8 o Ran 1 o Atodlen 13 iddi, adrannau 25 ac 84 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) a pharagraffau 13 a 30 o Atodlen 3 a Rhan 1 o Atodlen 19 iddi, ac adran 196(4) o Ddeddf 2008 a pharagraffau 25, 28(a) a 28(b) o Atodlen 10 iddi, mewnosodwyd adran 26A gan adran 144 o DDA 1990 a pharagraff 9 o Ran 1 o Atodlen 13 iddi, diwygiwyd adran 28 gan adrannau 144 a 162 o DDA 1990 a pharagraff 2(4) o Ran 1 o Atodlen 13 a Rhan 7 o Atodlen 16 iddi, a mewosodwyd adran 40(4) gan adran 118(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) a pharagraff 27 o Atodlen 6 iddi.

([4])           1993 p. 38. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny  i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([5])           O.J. L 345, 23.12.2008, t.  68.

([6])           1990 p. 8.

([7])           O.J. Rhif L 197, 24.7.2012, t. 1.

([8])           O.S. 1992/656; gwnaed diwygiadau perthnasol gan adran 76(7) o Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p. 27) a chan O.S. 1999/981, O.S. 2006/1282, O.S. 2996/1283, O.S. 2009/1901, O.S. 2010/1050 ac O.S. 2014/162.

([9])           2013 p. 32.

([10])         1986 p. 44. Amnewidiwyd adran 7 gan adran 5 o Ddeddf Nwy 1995 (p. 45) a diwygiwyd is-adran (2) gan adrannau 3(2) a 76 o Ddeddf Cyfleustodau 2000, a pharagraffau 1 a 4 o Ran 1 o Atodlen 6 iddi a chan O.S. 2011/2704.

([11])         1989 p. 29. Amnewidiwyd adran 6 gan adran 30 o Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p. 27), amnewidiwyd is-adran (1)(b) gan adran 136(1) o Ddeddf Ynni 2004 (p. 20) a diwygiwyd is-adran (1)(c) gan adran 197(9) o Ddeddf Ynni 2004, a Rhan 1 o Atodlen 23 iddi.

([12])         1981 p. 69. Amnewidiwyd adran 28 gan baragraff 1 o Atodlen 9 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p. 37) ac fe’i diwygiwyd gan adran 105(1) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p. 16) a pharagraff 79 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi, a pharagraff 2 o Ran 2 o Atodlen 13 i Ddeddf Mynediad i Arfordiroedd a Glannau’r Môr 2009 (p. 23).

([13])         1990 p. 43. Diwygiwyd adran 75(1) gan O.S. 2006/937.  Diwygiwyd adran 75(2) gan O.S. 2011/988.

([14])         Diwygiwyd adran 30(2) gan adran 22(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, a pharagraff 17(2) o  Atodlen 9 iddi. Mae diwygiadau eraill i’r adran hon nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([15])         1972 p. 70.

([16])         Mae diwygiadau i adran 20 nad ydynt yn berthnasol i’r ddarpariaeth hon.

([17])         O.S. 2004/1656 (Cy. 170), diwygiwyd gan O.S. 2011/1043; y mae offerynnau diwygio eraill i’w cael ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

([18])         1975 p. 26.

([19])         O.S. 2012/801 (Cy. 110), diwygiwyd gan O.S. 2014/469 ac O.S. 2013/755 (Cy. 90). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

([20])         1990 p. 8. Trosglwyddwyd swyddogaethau Gweinidogion y Goron o dan y DCGTh ac eithrio (a) adran 90(2), (b) swyddogaethau Gweinidogion y Goron ac eithrio Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adrannau 90(1), 101 ac Atodlen 8, 170(12), 238(1)(a), 239(1)(a), 263(3) a (4), 266, 268, 279(5) a (6), 305, 325(9) a 336(3); (c) swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant o dan adran 272(5) a (6); a (d) swyddogaethau’r Trysorlys o dan adrannau 293(3) a 336(2) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253). Mae terfynau eraill ar y trosglwyddiad hwnnw nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedyn i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([21])         Mewnosodwyd adran 293A gan adran 82(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (“Deddf 2004”) (p. 5). Mae adran 118(3) o Ddeddf 2004 yn darparu bod rhaid ystyried cyfeiriad yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 at ddeddfiad a ddiwygir gan y Ddeddf hon i fod yn gyfeiriad at ddeddfiad fel y’i diwygiwyd felly.

([22])         Mewnosodwyd adran 293A gan adran 82(1) o Ddeddf 2004.

([23])         Diwygiwyd adran 78 gan adran 17(2) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34), adrannau 40(2)(e) a 43(2) o Ddeddf 2004 a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 10 a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 11 i Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 9).

([24])         Mewnosodwyd adran 61A gan adran 40(1) o Ddeddf 2004 ac fe’i diwygiwyd gan adrannau 188 a 238 o Ddeddf Cynllunio 2008, ac Atodlen 13 iddi.

([25])         1980 p. 65.

([26])         Diwygiwyd adran 102 gan baragraff 6 o Atodlen 1 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34).

([27])         Diwygiwyd paragraff 1 o Atodlen 9 gan baragraff 15 o Atodlen 1 i Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34).

([28])         1964 p. 40. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidog mewn perthynas â harbyrau pysgodfeydd o dan adrannau 14 ac 16 o’r DCSP i Weinidogion Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253).

([29])         1990 p. 9.

([30])         1980 p. 66. Diwygiwyd adran 10(2)(a)(i) gan adran 22(2)(a) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991. Mae diwygiadau eraill i’r Ddeddf nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

([31])         Presenoldeb sylweddau sefydledig.

([32])         Rheoliad (EC) Rhif 1272/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor.

([33])         Gellir dod o hyd i ragor o ganllawiau ar hepgor y prawf yn y disgrifiad o ddull A.14, gweler Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 440/2008 dyddiedig 30 Mai 2008 sy’n gosod dulliau profi yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1907/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch  Cofrestru, Gwerthuso, Awdurdodi a Chyfyngu ar Gemegau (REACH) (O.J. L 142, 31.5.2008, t. 1).

([34])         O.J. L 147, 9.6.1975, t. 40.

([35])         Mae cynnwys nitrogen o 15.7% yn ôl pwysau o ganlyniad i amoniwm nitrad yn cyfateb i 45% o amoniwm nitrad.

([36])         Mae cynnwys nitrogen o 24.5% yn ôl pwysau o ganlyniad i amoniwm nitrad yn cyfateb i 70% o amoniwm nitrad.

([37])         O.J. L 304, 21.11.2003, t. 1.

([38])         Mae cynnwys nitrogen o 28% yn ôl pwysau o ganlyniad i amoniwm nitrad yn cyfateb i 80% o amoniwm nitrad.

([39])    1985. p. 22.

([40])    O.S. 1987/37, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r        Rheoliadau hyn.

([41])   O.J. Rhif L 304, 14.11.2008; t. 75.

([42])   1965 p. 57; amnewidiwyd adran 1 gan baragraffau 16 a 17 o Atodlen 12 i Ddeddf Ynni 2013 (p. 32).

([43])         O.S. 2014/1638. Mae yna newidiadau i’r rheoliad hwn nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([44])         O.S. 1987/37. Diwyglwyd rheoliad 2(1) gan erthygl 6(2) o O.S. 2014/469 a pharagraffau 37 a 38(b) o Ran 3 o Atodlen 3 iddo. Mae yna newidiadau eraill i’r rheoliad hwn nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([45])         O.S. 2012/801 (Cy. 110).

([46])           O.S. 2005/2839 (Cy. 203), y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.            

([47])         O.S. 2012/801 (Cy. 110).